Sunday 22 February 2009

Ymweliad i Nottingham a Chymru

Ymweliad i Nottingham cyn mynd dros y ffin i Gymru
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn y gwaith ers sbel, felly doedd dim cyfle i sgwennu dim byd am amser maith ond yn diweddar mi ges i ddigon o amser i bicio draw i Nottingham ar gyfer Cyfarfod Bore Coffi Cymry Nottingham. Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror. Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd, Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.

Yn syth wedyn wnes i yrru draw i Swydd Caer, i Nantwich i ddechrau, ble roeddwn gerdded o amgylch canol y dre i wneud tipyn bach o siopa cyn symud ymlaen i Tarporley. Drannoeth es i draw i ardal bryniau Clwyd i ymuno a changen Gogledd Ddwyrain Cymru Cymdeithas Edward Llwyd ar daith Cerdded 6 milltir. Cafodd y daith ei arwain gan Dafydd ac Alwena Williams, roedd tua 25 o bobl yn bresennol ar y daith, aethon ni i fyny bryniau lleol gan gynnwys bryn efo mast a safle darlledu teledu ar ei ben lle cafodd brotest ei chynnal yn y saithdegau gan Gymdeithas Yr iaith. Roeddwn ddigon lwcus ar Ddydd Sadwrn i gael tywydd sych a heulog. Ces i sawl sgwrs ddiddorol iawn, a roedd nifer o bethau diddorol i'w weld sef cyffylau gwerdd. Roedd sawl allt serth i ddringo ond yr oedd yr ymdrech yn werth ei wneud oherwydd yr oedd golygfeydd bendigedig o'r copa. Ar ôl y daith gyrrais i draw i'r Wyddgrug i ymweld â cherflun Daniel Owen a Siop Y Siswrn cyn troi am Tarporley i aros dros nos yn Nhŷ fy rhieni cyn dychweled dros Glawdd Offa ar y Sul. Mae gen i sawl peth arall ar y gweill, sef ymweliad mis nesa i Abertawe i weld gig Chwibdaith Hen Fran ac yn Mis Ebrill tridiau yn Aberystwyth yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer digwyddiad o'r enw Dehongli Cymru. Dw i'n methu aros!

2 comments:

Corndolly said...

Roedd y daith yn edrych yn eithaf caled, rhaid i mi ddweud. Efallai bod hi'n rhy galed i fi, ond yr wyf wedi clywed am gymdeithas Edward Llwyd o'r blaen. A wyt ti'n gwybod aelod arall o'r enw Ann Jones? Mae hi'n dod o Ynys Môn ac roedd hi'n gweithio ym mhrifysgol Fangor cyn iddi hi ymddeol. Soniodd hi wrth fi am y cymdeithas.

Cymry'r Canolbarth said...

Ydw, dw i'n nabod Ann, roedd hi'n diwtor i mi ar y gwrs Meistroli trwy'r post ym mhrifysgol Fangor. Fel ti'n dweud mae hi wedi ymddeol bellach.