Sunday 30 August 2009

Taith cerdded ar hyd Camlas Cromford


Es i am dro heddiw efo fy nghyfaill Colin ar hyd camlas Cromford. Y roeddwn ddigon ffortunus ynglŷn â'r tywydd. Wnaethon weld dipyn o fywyd gwyllt hefyd, hwyaden, Gwennoliaid y bondo a hefyd Gwennoliaid yn paratoi i hedfan i'r Affrig, dwy lygoden bengron y dŵr a hyd yn oed penhwyad ifanc. Wrth gwrs roedd digonedd o bobl yn hamddena fel ninnau. Wrth gerdded ar draw pont dwr y gamlas wnaethon weld bod yr hen orsaf pwmpio'n gweithio. Roedd mwg du yn chwythu o'r simnai ac roedd hi'n bosib gweld y hen beiriant yn tanio efo weithiwyr yn taflu rhaw lawn o lo bob yn ail funud i grombil y bwystfil haearn. Ar ôl cerdded am awr hanner cawson ni dipyn bach i fwyta cyn troi am adre.

7 comments:

Viv said...

Straeon diddorol Joanathan a lluniau go dda fel arfer! Pob hwyl a disgwliaf ar y Skype rhywdro te! Viv

Corndolly said...

Diddorol iawn, Es i weld y camlas Cromford blynyddoedd yn ôl. Dw i'n falch o glywed bod yr hen beiriant yn gweithio unwaith eto.

Viv said...

Shw mae Corndolly,
Joiais i ddarllen eich 'profile'!
Pob hwyl,
Viv

Corndolly said...

Diolch Viv, Wyt ti'n ysgrifennu blog eto? Roedd fy ewythr yn hyfforddwr yn y llu awr ac aeth i weithio efo cwmni preifat hefyd -Midlands Airways, dw i'n meddwl cyn iddo fo ymddeol.

Viv said...

Nac ydw! Llawer rhy swil yr wyf i i wneud pethau fel hynny.
Beth mae enw dy ewythr di tybed? Falle dw i'n ei nabod e, pwy a wr, mae byd 'ma'n fach ynde!

Corndolly said...

Chris Wilmot (Christopher)ydy ei enw. Mae o'n byw yn Pavenham. Fel ti'n dweud, mae byd yn fach.

Viv said...

Diolch, ond dw i ddim yn ei adnabod e mae arna i ofn. Newydd ddod i mewn yr wyf i - wedi bod yn cymryd mantais o'r haf bach mihangel. Roedd rhaid i mi fynd ar gefn fy meic yn y bore i wneud tipyn bach o waith siopa. Yn lle dod yn syth yn ôl adre es i lan yr afon Trent am awr. "Ble ar y ddaear wyt ti wedi bod?" meddai'r hen Albanes yn Saesneg wrth gwrs. "Roedd cwt mawr wrth y siecowt meddwn i". Dim ond celwydd gplau bach tydi.