Sunday 22 February 2009

Ymweliad i Nottingham a Chymru

Ymweliad i Nottingham cyn mynd dros y ffin i Gymru
Yr ydw i wedi bod yn brysur yn y gwaith ers sbel, felly doedd dim cyfle i sgwennu dim byd am amser maith ond yn diweddar mi ges i ddigon o amser i bicio draw i Nottingham ar gyfer Cyfarfod Bore Coffi Cymry Nottingham. Cawson ni groeso haul a chynnes yn Nhŷ Dilys a Dafydd yn Wollaton ar fore Dydd Gwener 19 o Chwefror. Yn bresennol oedd Dilys a Dafydd, Gwynne, Gwladys, Howell, Heulwen, Beryl, Beti, Siriol, Audrey, Jonathan, a Viv. Fel arfer roedd dewis eang o ddiodydd, cacennau a bisgedi. Mi fydd y cyfarfod nesa yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies ar y 6ed o Fawrth.

Yn syth wedyn wnes i yrru draw i Swydd Caer, i Nantwich i ddechrau, ble roeddwn gerdded o amgylch canol y dre i wneud tipyn bach o siopa cyn symud ymlaen i Tarporley. Drannoeth es i draw i ardal bryniau Clwyd i ymuno a changen Gogledd Ddwyrain Cymru Cymdeithas Edward Llwyd ar daith Cerdded 6 milltir. Cafodd y daith ei arwain gan Dafydd ac Alwena Williams, roedd tua 25 o bobl yn bresennol ar y daith, aethon ni i fyny bryniau lleol gan gynnwys bryn efo mast a safle darlledu teledu ar ei ben lle cafodd brotest ei chynnal yn y saithdegau gan Gymdeithas Yr iaith. Roeddwn ddigon lwcus ar Ddydd Sadwrn i gael tywydd sych a heulog. Ces i sawl sgwrs ddiddorol iawn, a roedd nifer o bethau diddorol i'w weld sef cyffylau gwerdd. Roedd sawl allt serth i ddringo ond yr oedd yr ymdrech yn werth ei wneud oherwydd yr oedd golygfeydd bendigedig o'r copa. Ar ôl y daith gyrrais i draw i'r Wyddgrug i ymweld â cherflun Daniel Owen a Siop Y Siswrn cyn troi am Tarporley i aros dros nos yn Nhŷ fy rhieni cyn dychweled dros Glawdd Offa ar y Sul. Mae gen i sawl peth arall ar y gweill, sef ymweliad mis nesa i Abertawe i weld gig Chwibdaith Hen Fran ac yn Mis Ebrill tridiau yn Aberystwyth yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer digwyddiad o'r enw Dehongli Cymru. Dw i'n methu aros!