Sunday 30 August 2009

Taith cerdded ar hyd Camlas Cromford


Es i am dro heddiw efo fy nghyfaill Colin ar hyd camlas Cromford. Y roeddwn ddigon ffortunus ynglŷn â'r tywydd. Wnaethon weld dipyn o fywyd gwyllt hefyd, hwyaden, Gwennoliaid y bondo a hefyd Gwennoliaid yn paratoi i hedfan i'r Affrig, dwy lygoden bengron y dŵr a hyd yn oed penhwyad ifanc. Wrth gwrs roedd digonedd o bobl yn hamddena fel ninnau. Wrth gerdded ar draw pont dwr y gamlas wnaethon weld bod yr hen orsaf pwmpio'n gweithio. Roedd mwg du yn chwythu o'r simnai ac roedd hi'n bosib gweld y hen beiriant yn tanio efo weithiwyr yn taflu rhaw lawn o lo bob yn ail funud i grombil y bwystfil haearn. Ar ôl cerdded am awr hanner cawson ni dipyn bach i fwyta cyn troi am adre.

Sunday 9 August 2009

Unwaith eto yng Nghymru annwyl


Eisteddfod y Bala 1-8 o Awst 2009Dydd Gwener a Dydd Sadwrn.Wnaethon ni deithio o Belper i Tarporley ar y dydd Gwener cyn croesi'r ffin prynhawn dydd Sadwrn. Ar ôl dipyn o siopa am negeseuon yn Llangollen cyrhaeddon ni ein llety yn ardal Glyndyfrdwy tua 4 o'r gloch. Roedd hi'n rhy hwyr i fynd i'r maes ar ddydd Sadwrn. Roeddwn ni wedi bod digon lwcus i gael llogi bwthyn moethus am yr wythnos, bwthyn efo golygfeydd trawiadol iawn, yn enwedig yn y bore cynnar efo niwl rhamantus, (niwl y Celtaidd efallai?) yn llifo trwy'r cwm coediog.

Ar ddydd Sul aethon ni draw i'r Bala i ymuno a'r daith cerdded yr Eisteddfod i ddysgwyr. Wnaeth y daith dechrau o'r canolfan hamdden cyn dilyn glan Llyn Tegid i Blwy Langywer, roedd tua 12 ohonon ni ar y daith. Cawson ni ein tywys gan Linos o wersyll Yr Urdd Glan-llyn efo ambell hanes a chwedl o'r ardal wrth gerdded. Cawson ni ein cludo yn ôl dros y llyn ar y cwch 'Brenin Arthur' sy'n eiddo i'r Urdd. Ar hyd y daith roedd'na griw ffilmio o'r BBC dan arweinyddiaeth Bryn Fon. Pwy a ŵyr efallai dan ni'n mynd i fod seren teledu cyn bo hir?
Dydd Llun
Wnes i ddeffro yn gynnar, nid cyn codi cwn Caer, ond digon cynnar i weld tarth y bore dros y Cwm. Wedyn aeth Marilyn a finnau draw i Faes y Brifwyl ar gyfer diwrnod hir ond pleserus Eisteddfota. Wnes i ddechrau efo gyfarfod a Siôn, ffrind sy'n dderwydd y wisg glas a thiwtor Cymraeg i'r brifysgol agored. Cawson ni sgwrs braf yn y Babell Ymgynnull a daeth ffrind arall o dderwydd (Gwyn) y Wisg Wyn a thiwtor Cymraeg i ymuno yn y sgwrs. Wedi hynny es i i'r Neuadd Dawns i wrando ar ddarlith am Nansi Richards, telynores y delyn deirhes enwog. Yn y prynhawn mi aethon ni i'r Pafiliwn Pinc i weld cystadleuaeth y Rhuban Glas offerynnol ac yna'r Parti Werin ac yna wnes i aros i weld Seremoni’r Coroni. Profiad gwych wedyn oedd gweld 3000 o bobl yn y Pafiliwn codi ar eu traed i ganu'r anthem Genedlaethol.
Gyda'r nos aethon ni i gyngerdd pen-blwydd 40 Sain. Roedd nifer fawr o seren, hen a newydd, y cwmni yno i ganu hen glasuron. Wnaeth Heather Jones canu llais cefndirol i 'Dwr' ac wedyn y can enwog 'Colli Iaith' ar ddiwedd y cyngerdd wnaeth y pafiliwn llawn, 3500 o bobl, canu'r anthem efo'r math nerth fy mod i'n meddwl bod annibyniaeth i Gymru ar y gorwel!
Dydd Mawrth
Es i i weld Aran Jones (Cymuned a safle we Say Something in Welsh) am sgwrs. Mae Say Something In Welsh yn safle we wych i ddysgwyr newydd, ac mae'na dros 2500 o bobl wedi cofrestru ar y safle eleni. Wedyn wnes i grwydro’r maes yn ymweld ag ambell stondin. Aethon ni yn ôl i'r bwthyn am y noson, lle ges i sgwrs fer efo'r bobl oedd wedi llogi'r bwthyn drws nesa. Roedden nhw'n gyfrifol am redeg stondin Amgueddfa Cymru.
Dydd MercherWnes i godi'n gynnar fel arfer ac wedyn tynnais i lunia ffoto o'r cwm a'r bwthyn. Unwaith roedden ni wedi cyrraedd y maes wnes i fynd am dro o gwmpas y stondinau cyn mynd i'r Babell Lén i wrando ar Hywel Teifi Edwards yn trafododi'r Ddarlith Lenyddol. ( Darwin yn yr Eisteddfod oedd y teitl ond wrth gwrs doedd Darwin erioed yn ymweld â'r Eisteddfod). Mi wnes i weld Gwynne a Viv o Nottingham yn y Babell Lén ond roedd amser yn brin oherwydd roedd rhaid i mi frysio ymlaen i gwrdd â Rosemary o Wrexham a sawl gyfaill arall sef Aled a Les. Mae Rosemary (neu Ro i'w ffrindiau) yn byw ac yn astudio yn Wrexham. Mae Les yn fardd dychan o fri ymhlith y byd gŵyl Gwerin yn Lloegr. Mae Aled yn dderwydd ac awdur, mae'n amlwg bod dysgwyr a'i diwtoriaid yn bobl ddeallus, ddiwylliedig!
Yn y prynhawn es i i weld y band Gwibdaith Hen Frân ac wedyn efo Marilyn i wrando ar gerddoriaeth Gwerin yn sesiwn y Tŷ Gwerin. (Gwelir http://www.youtube.com/watch?v=32XBWt2BJDo ) Gyda'r nos cawson ni bryd o fwyd efo ein ffrind William 'coporat' o Lundain a Blaenau Ffestiniog yn gynt. ( Mae William wedi bod mor garedig i ffonio fi bob pythefnos am flynyddoedd er mwyn rhoi'r cyfle i mi i ymarfer yr hen iaith ), roedd hi'n dipyn o daith i fynd a fo nol i'w lety yn y Bala ond roedd hi'n braf teithio yn ôl i'r bwthyn efo awyr y nos wedi goleuni gan y lleuad heb lygredd golau trefol sy'n sbwlio’r awyr uwchben Belper.
Dydd Iau
Mi wnes i ddechrau yn y Babell Lén yn gwylio drama un person 'Dan glo' gan Angharad Tomos cyn symud ymlaen i'r Stiwdio lle oedd trafodaeth ddiddorol ym mynd ymlaen dan arweiniad Gareth Owen. Roedd Iwan Bala yno a tri arlunydd o fri arall yn trafod 'Y Pethe Celf - Penllyn, magwrle artistiaid Cymru'. Ar ôl cinio ym Maes D, lle mi wnes i weld hen ffrindiau Maggie o Abermo a Malcolm o Gwmcar, es i draw i bafiliwn S4C i weld criw Hacio ffilmio rhifyn arbennig o'r rhaglen o'r Maes. Wedyn treuliais i dipyn o amser yn crwydro stondinau. Wrth i mi eistedd ar sedd mewn stondin wnaeth hen fenyw dod i mewn i orffwys am dipyn, roedd hi wedi blino a cherrig y llwybrau oedd yn boen iddi hi. Wrth siarad ces i wybod bod Eileen Biersley oedd ei henw hi, sef y ddynes enwog wnaeth safiad dros gael biliau treth leol yn y Gymraeg yn Ne Cymru yn y 50au hwyr a'r 60au. Dyna un peth sy'n arbennig am yr Eisteddfod Genedlaethol, mae cymaint o enwogion a phobl o fri yn crwydro'r maes. Er enghraifft, pan o’n i'n yfed paned o de ym Maes D, ces i gyfle i ofyn i Dewi Llwyd (Newyddion BBC a'r rhaglen Pawb a'i Farn) a oedd diddordeb gyda Phawb a'i Farn dod draw i ganolbarth Lloegr i'w wneud rhaglen, ei ateb o oedd bydd rhaid i ni, yn y canolbarth, darbwyllo'r rhaglen bod digon o bobl sy'n medru’r iaith ar gyfer cynulleidfa (sef o leiaf 80 o bobl). Beth amdani gyfeillion? Siŵr o fod'na digon o Gymry Cymraeg yn Nottingham, Derby a Birmingham?
Gyda'r nos wnaethon ni gwrdd â Peggi, ein ffrind o Abertawe am bryd o fwyd cyn gweld y grŵp Tebot Piws yn canu ar Lwyfan perfformio 2.
Dydd Gwener
Ces i hwyl fore dydd Gwener yn gwrando ar y partïon llefaru’n adrodd yn y Pafiliwn, roedd y testun yn dod o waith Alan Llwyd (Lleoedd) sef Ffarwelio a Chanrif. Roedd 13 o barti yn cymryd rhan. Aeth Marilyn i wneud sesiwn 'Funky Dawnsio' ym Maes D. Ar ôl cinio aethon ni i grwdro'r Maes. Yr ydw i'n sicr fy mod i wedi cerdded milltiroedd yn ystod yr Eisteddfod yma! Gyda'r nos aethon ni i'r Pafiliwn i weld cystadleuaeth y corau cymysg. Cawson ni panad efo William, a hefyd wnaethon ni dynnu rhai lluniau wrth siarad â ffrindiau William. Fel arfer, mae pawb yn nabod pawb yn y byd (bach) Cymraeg.
Dydd SadwrnDiwrnod trist iawn, roedd rhaid i ni deithio'n ôl dros Glawdd Offa, i ni mae'r Eisteddfod wedi dod i ben am flwyddyn arall. Ond mi ges i andros o hwyl!