Friday 8 January 2010

Daw haul ar y bryn?

Dydw i ddim eisiau swnio fel hen ddyn blin ond yr ydw i wedi hen alaru ar y gaeaf yma. Yr ydyn ni wedi cael gormodd o eira o hyd ac yr ydyn ni wedi treulio gormod o nosweithiau o dan y rhewbwynt yn barod.

Rhaid i mi ofyn pryd daw haul ar y bryn? Pryd daw'r gwanwyn? Ond o leiaf cawson ni ymwelwyr i'n ngardd cefn yr wythnos yma, sef Socan Eira (neu Fieldfares yn yr iaith fain). Wnaethon nhw'n bwyta'r eirion cochion i gyd cyn diflannu.
Hoffwn i ddiflannu o'r wlad gaeafol yma hefyd, ond gobeithio ni fydd y gwanwyn yn bell i ffordd.

4 comments:

Linda said...

Ddim hanner mor oer yma ar Ynys Vancouver.Mi fuais i o amgylch yr ardd ddoe a gwelais y cenin pedr a'r eirlysiau yn dechrau torri drwy'r pridd.
Daw eto haul ar fryn :)

JonSais said...

Diolch am eich sylw. oes dim o'r cennin Pedr na'r eirlysiau yma eto. Ond siŵr o fod mi fydden nhw'n ymddangos cyn bo hir.

Dafydd ap Gruffudd said...

Fe ddaw eto haul ar fryn,
Os na ddaw blodau,
Fe ddaw chwyn.

Cath said...

Cennin Pedr ar eu hôl hi yma yng gngoledd Sbaen hefyd, ond maen nhw'n dechrau dod. Llun:
http://Asturiasyngymraeg.blogspot.com