Sunday 21 February 2010

Gaeaf yn y bore.

Ces i dipyn o fraw'r bore'ma. Wrth i mi godi i gynnau'r tân yn y lolfa mi sylwais i ar y golau llachar y tu allan. Roeddwn feddwl bod y wawr yn y gynnar y bore'ma, ond wrth edrych allan trwy'r ffenest mi welais i fod storm eira yn chwythu dros Belper. Roedd mantell 4 modfedd o eira dros bopeth gan gynnwys y ffordd, yr ardd cefn, toeau'r dref a'r cefn gwlad o gwmpas hyd at y gorwel.
Roedd rhaid i mi glirio'r drive yn gyntaf a bwyta brecwast, ond erbyn 11.00 y bore dyma fi a'm cyfaill Colin yn cerdded dros y caeau ac yn anelu at ben rhyw fryn bach lleol.
Roedd digon o bobl eraill yn gwneud yr un peth efo eu cŵn, eu plant a'i slediau. O'r copa bryn roedd hi'n bosib gweld i fyny'r dyffryn. Doedd fawr ddim o'r byd natur i'w weld , hyd yn oed yn y coed sy'n tyfu ar ochr y bryn. Mi welais i dim ond un bran yn eistedd ar ben cangen.
Roedd awr o gerdded yn ddigon a cyn bo hir dyna oeddwn yn nol o flaen tân cynnes yn bwyta cawl a thost wrth weld yr eira yn dechrau toddi. Dyna beth braf, Gaeaf yn y bore, Gwanwyn yn y prynhawn.

1 comment:

neil wyn said...

Ges i'r un brofiad y bore 'ma hefyd! (er nid cweit cymaint o eira). Erbyn y p'nawn roedd yr haul wedi toddi pob ôl o'r eira, a gaethon ni gip o'r gwanwyn i ddod...gobeithio!