Monday 6 September 2010

Wirksworth, Eglwys Santes y Forwyn Fair a'r Ffair Gweldig Chatsworth

Mi gafodd y wraig (Marilyn) a finnau penwythnos prysur y penwythnos yma. Aethon ni am dro o gwmpas Alport Height cyn mynd i Wirksworth am ginio bach sydyn, sef cawl cennin a thatws mewn caffi cartrefol y tu ôl i Faes y Farchnad. Mae Wirksworth yn dref marchnad hanesyddol. Yn y hen amser roedd cryn dipyn o bres yn dod i'r dref oherwydd y diwydiant plwm efo nifer o byllau plwm o amgylch y dref.
Mae'r eglwys yn y dref dipyn o faint, sef Eglwys Santes y Forwyn Fair. Mae'na sawl peth diddorol yno. Mae'r eglwys yn sefyll o fewn darn o dir sy'n eithaf crwn. Oes arwyddocâd i hynny? Hefyd mae'na olion o sawl arch carreg o gwmpas y hen fynwent. Y tu fewn i'r eglwys mae'na hen gaead i arch carreg. Mae'r caead wedi cerfio efo delweddau o'r 8fed canrif. Yn fuan ar ôl i'r Frenhiniaeth Mercia cael ei dro i Gristnogaeth mae'n debyg.
Wrth fynedfa'r eglwys roedd stondin bach efo taflenni mewn sawl iaith dramor a oedd yn son am hanes y lle. Roeddwn synnu i weld fersiwn Cymraeg yno hefyd.
Ar y Sul aethon ni a Brian (tad Marilyn) a Shirley (chwaer Marilyn) i weld Gŵyl Wledig Chatsworth. Mae hi'n sioe go fawr a dw i'n sicr bod dros 10,000 o bobl wedi bod yn bresennol. Roedd pob math o bethau, bandiau Pibau Albanaidd, marchogaeth Ceffylau, cystadlaethau Cŵn, treialon cŵn defaid, tanio drylliau, saethau bwy a saeth, pebyll crefftau a phebyll bwyd. Mi ges i sgwrs fer efo dyn o Sir Fôn a oedd yn gweithio ar stondin Tofac, ac roedd sawl cwmni bwyd arall o Gymru.
Roedd y tywydd yn gynnes heb ddifferyn o law, diolch byth. Felly ar ôl diwrnod hir 'ar y maes' wnaethon ni droi am adref tua hanner awr wedi chwech i dreulio gweddill y noswaith ar y ffôn efo William o Lundain a Ro o Wrecsam.

No comments: