Monday 4 October 2010

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2010

Daeth dros 30 o bobl at ei gilydd ar gyfer yr Ysgol Cymraeg Undydd Derby blynyddol sy wedi cael ei gynnal am y 6ed tro eleni yng Nghanolfan Cymunedol Chester Green, Derby. Roedd rhai o'r gwirfoddolwyr wedi teithio o bell fel Brian James o Gaerdydd a'i fab Aled o ardal Solihull. Wnaeth Brian arwain sesiwn arbennig o dda i'r dosbarth profiadol o dan y testun 'Yma o hyd'. Ar ran y myfyrwyr roedd y rhan mwyaf o'r ardal leol sef Derby, Sheffield, Birmingham a threfi arall y rhanbarth ond roedd'na un o Gymru sef Ro Ralph o Wrecsam.
Cawson gymorth helaeth gan Gymry Nottingham efo 3 o'r sesiynau i'r dosbarth Profiadol dan arweiniad aelodau Cymdeithas Cymry Nottingham. Diolch i Beti Potter, Howell Price a Gwynne Davies. Diolch hefyd i'r tiwtor lleol Elin Merriman ac Eileen Walker o Keighley.
Wnaeth Criw'r Gegin gweithio yn galed trwy’r dydd i ddarparu diodydd a chinio blasus. Diolch i Morfydd Benyon , Marilyn Simcock, Brian a Shirley Foster am eu gwaith.
Yr ydyn ni'n mynd ymlaen efo rhaglen lawn o weithgareddau i'r Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar gyfer 2010-2011. Mi fydd y cyfarfod wythnosol yn Derby yn parhau ond yr ydyn ni'n dechrau rhaglen fisol o Weithdai Cymraeg ar fore Sadwrn 20 o Dachwedd a hefyd mi fydd ambell daith Cerdded yn cael ei drefnu. Hoffwn ddiolch i bawb sy wedi cyfranni at lwyddiant mawr Yr Ysgol Undydd eleni ac yr ydyn ni'n ffyddlon mi fydd Ysgol Undydd arall blwyddyn nesa.

1 comment:

Corndolly said...

Diolch am brofiad arbennig o dda dros y penwythnos diwethaf. Hoffwn i fynychu mwy o sesiynau fel hwnnw. I ddysgu pwnc arall trwy gyfrwng y Gymraeg ydy'r modd gorau i wella'r iaith yn fy marn i.