Saturday 27 November 2010

Gwyn eu byd

Mi ges i dipyn o fraw'r bore'ma pan ddeffrais i tua phump o'r gloch. Roedd hi'n anarferol o lachar. Wrth edrych trwy’r ffenest roedd y rheswm digon amlwg, sef mantell drwchus (4 - 5 modfedd) o eira. Felly ar ôl codi am hanner awr wedi saith dyma fi yn ysgubo'r eira oddi wrth y llwybr i'n tŷ ni er mwyn arbed Marilyn a finnau rhag syrthio wrth fynd a dod, heb son am y dyn post. Dw i'n alaru bod y gaeaf wedi dechrau mor gynnar eleni. Mae’r Gwanwyn yn edrych yn bell i fwrdd.

1 comment:

Corndolly said...

Does 'na ddim cymaint o eira yma ond mae hi'n oer iawn. Ac ydy, mae'r gwanwyn yn bell i ffwrdd.