Monday 20 September 2010

Taith Cerdded Cymraeg yn yr Arboretum Coffadwriaethol Genedlaethol

Cawson ni diwrnod i'r brenin ar ddydd Sadwrn diweddaf. Aeth Marilyn a fi draw i Alfrewas ger Lichfield i'r Arboretum Coffadwriaethol Genedlaethol (National Memorial Arboretum) ar gyfer Taith Cerdded Cymraeg SSIW. Roedd dim ond tri ohonon ni yno. (fi, Marilyn ac Ian o Solihull) ond yr ydyn ni'n mynd i drefnu taith cerdded bob tymor o'r hyn ymlaen, Mi fydd yr un nesa ym Mis Chwefror gobeithio.
Roedd y Parc yn fawr ac roedd hi'n bosib gweld nifer o bethau gwahanol. Roedd y brif Gofgolofn yn eithaf trist, nid yn unig herwydd y nifer fawr o enwau arno, sef pob un aelod o'r lluoedd arfog sy wedi cael eu lladd ers y ail ryfel byd, ond hefyd oherwydd y mur enfawr le does dim enwau eto. Ond mae'na ddigon o le i gannoedd o enwau. Tristwch mawr fod dynoliaeth yn dal wrthi yn rhyfela bob muned o bob dydd trwy’r flwyddyn. A oes heddwch? Nag oes.
Ar ran y sgwrs roedd hi'n braf cwrdd ag Ian, sy'n siarad Cymraeg hynod o dda. Gobeithio tro nesa yr ydyn ni'n cael Taith cerdded Cymraeg mi fydden ni'n gallu tynnu mwy o ddysgwyr a Chymry Cymraeg at ei gilydd. Yn awr dan ni'n edrych ymlaen at ein hysgol Cymraeg Undydd Derby blynyddol, mi fydd digon o gyfle yno i wrando a siarad iaith y nefoedd. Gawn ni weld os ydyn ni'n gallu cymreigio Derby a'r canolbarth.

Monday 6 September 2010

Wirksworth, Eglwys Santes y Forwyn Fair a'r Ffair Gweldig Chatsworth

Mi gafodd y wraig (Marilyn) a finnau penwythnos prysur y penwythnos yma. Aethon ni am dro o gwmpas Alport Height cyn mynd i Wirksworth am ginio bach sydyn, sef cawl cennin a thatws mewn caffi cartrefol y tu ôl i Faes y Farchnad. Mae Wirksworth yn dref marchnad hanesyddol. Yn y hen amser roedd cryn dipyn o bres yn dod i'r dref oherwydd y diwydiant plwm efo nifer o byllau plwm o amgylch y dref.
Mae'r eglwys yn y dref dipyn o faint, sef Eglwys Santes y Forwyn Fair. Mae'na sawl peth diddorol yno. Mae'r eglwys yn sefyll o fewn darn o dir sy'n eithaf crwn. Oes arwyddocâd i hynny? Hefyd mae'na olion o sawl arch carreg o gwmpas y hen fynwent. Y tu fewn i'r eglwys mae'na hen gaead i arch carreg. Mae'r caead wedi cerfio efo delweddau o'r 8fed canrif. Yn fuan ar ôl i'r Frenhiniaeth Mercia cael ei dro i Gristnogaeth mae'n debyg.
Wrth fynedfa'r eglwys roedd stondin bach efo taflenni mewn sawl iaith dramor a oedd yn son am hanes y lle. Roeddwn synnu i weld fersiwn Cymraeg yno hefyd.
Ar y Sul aethon ni a Brian (tad Marilyn) a Shirley (chwaer Marilyn) i weld Gŵyl Wledig Chatsworth. Mae hi'n sioe go fawr a dw i'n sicr bod dros 10,000 o bobl wedi bod yn bresennol. Roedd pob math o bethau, bandiau Pibau Albanaidd, marchogaeth Ceffylau, cystadlaethau Cŵn, treialon cŵn defaid, tanio drylliau, saethau bwy a saeth, pebyll crefftau a phebyll bwyd. Mi ges i sgwrs fer efo dyn o Sir Fôn a oedd yn gweithio ar stondin Tofac, ac roedd sawl cwmni bwyd arall o Gymru.
Roedd y tywydd yn gynnes heb ddifferyn o law, diolch byth. Felly ar ôl diwrnod hir 'ar y maes' wnaethon ni droi am adref tua hanner awr wedi chwech i dreulio gweddill y noswaith ar y ffôn efo William o Lundain a Ro o Wrecsam.

Friday 3 September 2010

Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Mis Medi



Cynhaliwyd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Mis Medi yn Nhŷ Gwynne a Marilyn Davies yn Bramcote. Ond y tro'ma, Caryn, eu merch yng nghyfraith, oedd y lletywraig. Roedd Gwynne a Marilyn yn absennol oherwydd roedden nhw'n aros draw yn ardal Trefdraeth, Sir Benfro. Cawson ni'r wledd arferol a digonedd o goffi a the er mwyn cynnal y sgwrs!
Daeth 11 o bobl i'r digwyddiad ond roedd Siriol yn absennol hefyd oherwydd salwch. Mae'r pawb yn y cyfarfod eisiau gwellhad cyflym i Siriol. Doedd Viv Harris dim yno chwaith, gobeithio mi fydden ni'n gweld pawb y tro nesa.