Cafodd Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby Gweithdy Cymraeg llwyddiannus iawn ar fore Sadwrn 19 o Fawrth.
Daeth 16 o bobl at ei gilydd o dan diwtor Elin Merriman. Roedd rhai o'r grŵp wedi teithio'r holl ffordd o Stafford ac roedd aelod newydd arall wedi teithio o Clay Cross. Diolch yn fawr iawn i Bea Payne am ddod i'n helpu ni'r sesiwn yma, dyn ni'n gobeithio cael rhagor o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ar gyfer sesiynau eraill y tymor yma. Hefyd croeso cynnes i'n aelodau newydd! Mi fydd y Gweithdy nesa ar ddydd Sadwrn 16 o Ebrill.
Mae'r Cylch Derby hefyd yn cydweithio efo cwmni cynhyrchu sy'n rhan o BBC Radio Cymru i geisio trefnu recordio rhifyn o raglen ar gyfer Radio Cymru, felly os ydych chi'n medru'r Gymraeg neu yn ddysgwyr brwd a rhugl cysylltwch â'n gwefan (http://www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com/ )
2 comments:
Roedd nifer parchus o bobl yno, Jonathan. Roedd yn edrych fel roedd pawb yn mwynhau eu hunain.
Do, roedd nifer da y tro yma, gobeithio cawn ni fwy o bobl y tro nesa ym Mis Ebrill.
Post a Comment