Cawson ni benwythnos Cymreig a Chymraeg iawn yn Nottingham dros y Sul. Yn gyntaf ar Nos Sadwrn daeth tua 50 o bobl Nottingham, Derby a Loughborough ynghyd ar gyfer y Noson Lawen flynyddol efo Gymdeithas Cymry Nottingham. Wedyn ar y Nos Lun daeth BBC Radio Cymru draw i recordio rhifyn o'r rhaglen panel Hawl i Holi yng Ngholeg San Ioan ym Bramcote, roedd 50 o bobl yn y gynulleidfa, efo Dewi Llwyd yn cyflwyno a 4 o bobl ar y panel, sef Dafydd Iwan cyn Llywydd Plaid Cymru, Gareth Davies y gyn seren Rygbi, Sian Foster sy'n athrawes o ardal Coventry, a finnau ar ran Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby. Roedd hi'n dipyn o fraint cael bod ar y panel ond mi wnes i fywnhau'r profiad. Wnaeth nifer dda o Gymry Nottingham a Derby cyfrannu i'r sgwrs yn ystod y rhaglen, prosiect mawr nesa'r cylch yw trefnu'r sgol Undydd ym Mis Hydref ac wedyn Cyngerdd Côr.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Ie, roedd y Noson Lawen yn hwylus dros ben! A chwarae teg i Band Derby am eu cyfraniad - perfformiad medrus a difyrrus gan gerddorion talentog ma's draw heb os.
Diolch am dy ymdrech a'r gwaith caled i gyd i gorfodi Dewi Llwyd a'i griw ddod i Nottingham; dyfal donc a dyr y garreg yntefe!
Viv
Post a Comment