Friday 7 October 2011

Ymweliad criw teledu Tinopolis



Cawson ni amser hwylus iawn yn ystod cyfarfod Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham heddiw. Roedd'na reswm arbennig am hyn, megis ymweliad criw o Lanelli ar gyfer Wedi 3 / Wedi 7 i recordio darn i'r rhaglen. Roedd llond tŷ o Gymry Nottingham yno i groesawu Rhodri a'r tîm. Cafodd nifer fawr o aelodau eu cyfweld ac ar ddiwedd y bore wnaethon ni ganu'r emyn Calon Lan. Mae'n debyg mi fydd y darn yn cael ei defnyddio yn ystod wythnos nesa (Dydd Mawrth). Siŵr o fod mi fydd nifer o Gymdeithas Nottingham yn gwylio efo mwy o ddiddordeb nag arfer. Diolch i Dawn a'i theulu hi am y croeso arbennig o gynnes a hefyd am y bwyd a chacennau blasus.

3 comments:

Corndolly said...

Dw i 'di gosod y recorder yn barod ! Edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y rhaglen.

JonSais said...

Mi fydd nifer o Gymry Nottingham yn gwneud yr un fath!

neil wyn said...

Da iawn Jon, mi wyliais y darn ar Wedi3, criw da o Gymry yna!!