Friday 2 March 2012

Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham 2012

Cynhaliwyd Cinio Dydd Gŵyl Dewi Cymdeithas Cymry Nottingham neithiwr yn stafelloedd Belgrave yng nghanol Nottingham. Roedd 81 o bobl yn bresennol gan gynnwys Cymraes a chafodd ei geni yn Ne America ond sydd wedi byw yn Nottingham ers 1932 ac yn aelod o'r Gymdeithas Cymry am 80 mlynedd! Hefyd roedd Lewis Jones mab ieuangu teulu Ty'n y Baich a'i ferch Bronwen ar ein bwrdd ni. Yn ogystal roedd hi'n braf cael sgwrsio efo Gwynne Davies, ei wraig a'u mab. Roedd y bwyd yn flasus, y cwmni yn ddifyr a chawson ni wledd o ganu gan Gôr y Wawr a Heather Thomas unawdydd ifanc a dawnus lleol.
Cafodd cyfrol o ysgrifau gan wahanol aelodau o'r Gymdeithas eu lansio yn ystod y noson. Mae'r gyfrol wedi cael ei golygu gan Howell Price, cyn Llywydd y Gymdeithas ac aelod selog o'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg misol. Mae Howell yn cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod ac wedi cael sawl sylw yn y llyfr beirniadai sy'n cael ei gyhoeddi bod blwyddyn ar ôl yr Eisteddfod.
Dyma oedd y tro cyntaf i mi ymweld â Chinio Dydd Gŵyl Dewi'r Gymdeithas ac nid fydd hi'r olaf un dw i'n siŵr. Diolch i bawb a wnaeth cyfrannu i'r noson lwyddiannus.



No comments: