Saturday 9 February 2013

Cystadleuaeth Scrabble Dysgwyr Cymraeg Lloegr

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Scrabble Dysgwyr Cymraeg a Chymry alltud Cymry yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr, Derby ar Sadwrn 9 o Chwefror. Daeth timau o de Cymru, Stratford upon Avon, Nottingham, Belper, Derby, Chesterfield ac Alfreton at ei gilydd ar gyfer rownd cyn derfynol â rownd derfynol. Roedd y cystadlu yn frwd ond yn gyfeillgar ac yn y pen draw tîm Cymry Nottingham enillodd. Viv Harris a Dafydd Hughes wnaeth derbyn y wobr gyntaf sef tlws a llyfr am dir ac arfordir Cymru. Aeth yr ail wobr i Sue Davies o Stratford ac aeth y drydedd wobr i Martin Coleman o ardal Chesterfield. Roedd hi'n braf cael bobl o'r canolbarth a De Cymru yma heddiw ac yr ydyn ni'n bwriadu cynnal y gystadleuaeth unwaith eto blwyddyn nesa. Diolch i'r timau am gymryd rhan ac i Bob Neill am greu'r tlws celfydd iawn.
Mae Bob Neill yn arlunydd dawnus iawn sy'n creu lluniau gan ddefnyddio'r dull 'pyrography'. Cafodd Bob ei addysg ym Mangor yn y Coleg Normal cyn gweithio fel athro yn Lloegr. Erbyn hyn mae Bob wedi ymddeol ac yn gweithio fel arlunydd.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Dw i'n genfigenus. Oes oes cyfrif Flickr ganddoch, ychwanegwch eich lluniau at y gwp canlynol os dymunwch:
http://www.flickr.com/groups/scrabblecymraeg/

Bydd rhaid i mi chwilio allan am y gystadleuaeth y flwydydn nesaf a chydlynu trip i weld fy rhieni-yng-nghyfriath yn Swydd Efrog ar yr un penwythnos!

JonSais said...

Rhys
Croeso i ti ddod draw tro nesa, cadw llygad ar ein gwefan ni (www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com ) mi fydd cyhoeddiad am y cystadleuaeth nesa ar y blog rhywbryd yn 2014, ond os ti eisiau cwrdd a'n grwp cyn hynny, mae'na Weithdy Cymraeg bob mis.
Pob hwyl
Jonathan