skip to main |
skip to sidebar
Teyrnged i hen gyfaill
Wnes i ddechrau'r flwyddyn efo'r newyddion trist fy mod i wedi colli un o'n hen gyfeillion. Bu farw Mike Hamilton ar fore 31 o Ragfyr yn 65 oed yn dilyn cyfnod hir a chreulon o salwch. Yr oedd y ddau ohonom wedi bod yn gyfeillion ers 1993 pan ddaeth Mike i ymuno a'r grŵp cerddwyr radical 'Red Rambles' yn ardal y Peak. Ar ôl hyn wnaeth y ddau ohonom yn cydweithio ar nifer fawr o brosiectau, digwyddiadau a chyhoeddiadau.
Roedd Red Rambles yn para am y cyfnod rhwng 1993 tan ddiwedd 1999 ac yr oedden ni fel grŵp yn cerdded ar draws Swydd Derby a rhannau o ganolbarth Lloegr gan gynnwys lleoedd megis Kinder Scout, y Roaches, Derwent Edge, Lathkill Dale a llawer mwy. Daeth Mike ar y rhan mwyaf o'r teithiau gerdded misol hyn. Ar ben hynny wnaeth Mike cydweithio efo fi yn cynhyrchu bron iawn 40 rhifyn o gylchlythyr misol EMAB ar gyfer anarchwyr a phobl radical ardal Derby a Nottingham. Roedd Mike yn ddyn ymarferol a llwyddodd creu safle rhandiroedd cymunedol yn Loughborough. Roedd o'n lledaenu'r neges bod hi'n bosib creu byd amgen i'r byd presennol ble mae grym y wladwriaeth a chyfalafiaeth yn rheoli popeth, roedd Mike am greu byd amgen ble mae gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol a heddwch yn teyrnasu. Roedd o'n feddylgar, teyrngar a gwir gyfaill.
Roedd diwrnod angladd Mike yn glir ond yn oer. Roedd awyr las uwchben claddfa naturiol sy'n sefyll ochr Burton on the Wold ger Loughborough. Daeth dros bumdeg o bobl i dalu teyrnged olaf i ddyn oedd yn wir wedi cyfrannu i'w gymuned. Roedd y 'gwasanaeth' yn cofio holl bethau yr oedd Mike wedi gwneud dros y blynyddoedd ar gyfer ei gymuned, ei deulu a'i daliadau anarchydd. Mi fydd colled mawr ar ei ôl o. Heddwch i'w llwch.
1 comment:
Mae'n swnio fel dipyn o foi - diolch am rannu.
Post a Comment