Sunday, 21 June 2015
Wythnos ym Mhenllyn
Dyma ni heddiw ar ddiwrnod 'hirddydd haf', ac wedi dod adref ar ôl treulio wythnos gyfan ym Mhenllyn. Roedd hi'n gymysg o ran tywydd efo rhai dyddiau heulog ac ambell un cymylog efo dipyn o law.
Er gwaethaf hynny mi lwyddon ni ymweld â nifer fawr o lefydd megis, Caernarfon, Criccieth, Pwllheli, Lanbedrog, Aberdaron, Nefyn, Llanfair PG a Llangefni yn Sir Fon.
Ar ran atyniadau twristaidd ymwelon ni a Phlas Gilyn y Weddw efo ein ffrindiau Dafydd a Jane o Fae Colwyn i weld arddangosfa o luniau sy'n dathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia. Roedd hi'n wych efo lluniau gan Delyth Llwyd Evans de Jones (1915-1986) o Batagonia. Hefyd aethon ni i weld Plas yn Rhiw a'i gerddi wrth ochr Porth Neigwl. Mi wnaethon ni cerdded i ben Tre'r Ceiri ac wedi (yn y car) i lawr i Gaffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn.
Wrth gyrraedd Pen Llyn mi wnes i brynu copi o Lanw Llyn er mwyn gweld beth oedd yn mynd ymlaen ymhlith y Cymry Cymraeg. Felly dyna fi, ar y nos Sul cyntaf, yn mynd ar fy nen fy hunan i wrando ar Gymanfa Ganu yng Nghapel y Traeth, Criccieth efo Trystan Lewis yn arwain. Roedd y canu yn hyfryd ond oedran y gynulleidfa ar y cyfan rhwng 60 a 85. Trist dweud ond ni fydd y traddodiad yma yn para yn hir. Ar y nos Llun mi es i i Lansiad llyfr (Pam Na Fu Cymru) yng nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr. Cafodd darlith am gynnwys y llyfr gan yr awdur (Simon Brooks), ambell sgwrs ddiddorol, panad ac wrth gwrs roedd rhaid i mi brynu’r llyfr.
Ar y nos Fawrth ces i sgwrs efo Aran Jones (un o sylfaenwyr cwmni SSIW) a'i ffrindiau yn Nhafarn y Twnti, Rhydyclafdy. Ar nos Fercher aeth Marilyn a finnau i sesiwn Panad a gemau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Braf gweld y dysgwyr lleol. Nifer ohonynt wedi symud i'r ardal o rannau gwahanol o Loegr a thu hwnt.
Ar y dydd Gwener ymwelon ni a'r Amgueddfa Forol yn Nefyn. Roedd hi'n arddangosfa benigamp, ac yr oedd y cerrig beddau yn y fynwent hynod o ddiddorol hefyd efo lluniau graffiti o longau hwylio o'r oes a fu.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment