Mae mis Medi wedi dod i ben a dyna ni ar ddechrau mis Hydref yn barod.
Yma yn nyffryn Derwent mae'r pethau wedi ailddechrau o ddifri. Mae Glen Mulliner(trefnydd) ac Elin Merriman (tiwtor) dosbarth Cymraeg Belper yng nghanolfan Cymunedol Strutt (hen ysgol ramadeg Strutt) wedi llwyddo i dynnu 17 o bobl frwd i'r dosbarth Cymraeg newydd. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Roedd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar Sadwrn 26 o Fedi yn llwyddiant ysgubol efo 42 o bobl yn bresennol. Yr oedden ni'n lwcus dros ben i gael tiwtor gward a bardd Aled Lewis Evans o Wrecsam i ddod i roi sesiynau am ei farddoniaeth a llyfrau. Rhaid diolch hefyd ein tiwtoriaid arferol sef Elin Merriman ac Eileen Walker. Cawson ni amser braf ac yr ydyn ni i gyd wedi mwynhau canu'r anthem genedlaethol ar ddiwedd y dydd. Ar ran y Gymraeg y tu allan i'r dosbarth mae Cymdeithas Cymry Nottingham wedi cyhoeddi eu rhaglen am 2015 -2016 ac mi fydd Bore Coffi misol 'Popeth yn Gymraeg' yn parhau. Roedd bore coffi heddiw ( 2ail o Hydref) yn hwylus iawn yn nhÅ· Beryl ( Pant-y-Cyno) draw yn Long Eaton efo 11 ohonon ni yn mwynhau'r diodydd a chacennau. Mi fydd mwy o deithiau gerdded Gymraeg yn cael eu trefnu nes ymlaen. Mae gynnon ni obeithion i gynnal 'Noson Llawen' mewn tafarn lleol ynystod 2016, mi fydd mwy o fanylion nes ymlaen am hynny, ond mae manylion presennol am weithgareddau efo DWLC ar gael ar wefan y grwp. ( www.derbywelshlearnerscircle.blogspot .com ) neu ar dudalen Facebook 'Menter Iaith Lloegr'.
No comments:
Post a Comment