Ysgol Undydd Cymraeg Derby a Chylch Dysgwyr Cymraeg Derby
Cafodd Ysgol Undydd Cymraeg Derby ei
chynnal ar Sdawrn 28 o Hydref gan Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby (CDCD). Mae'r digwyddiad
yn tynnu pobl o nifer fawr o drefi ar draws canolbarth Lloegr a thu hwnt! Eleni
daeth 38 o bobl at ei gilydd o Derby, Nottingham, Sheffield, Congleton, Clay
Cross, Belper, Lichfield, Stafford a Birmingham.
Mae 3 dosbarth, sef dechreuwyr, canolradd a
profiadol ar gyfer dysgwyr rhugl a Chymry Cymraeg alltud. Mae presenoldeb stondin Awen Meirion wedi
ychwanegu at naws Cymraeg a Chymreig y diwrnod.
Diolch yn fawr iawn i'r tiwtoriad (Elin, Eileen, Howell a Meirion) a hefyd i griw y gegin (Marilyn a Shirley) am ddarparu bwyd blasus a the a choffi tryw'r dydd! Diolch hefyd i Gwyn o Awen Meirion am ddo draw o'r Bala!
Mae CDCD yn cynnal gweithdy Cymraeg misol
trwy'r flwyddyn, fel arfer rhwng 15 a 20 o bobl yn dod i'r gweithdy. Ar wahân i
hynny mae nosweithiau Sgwrs a pheint yn
Nhafarn Yr Hop, Belper unwaith y mis, ac ambell daith Gerdded Cymraeg yn ardal
y Copaon.
Mae gan CDCD gwefan
(www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com) efo manylion rhaglen y grŵp. Mae
croeso cynnes i ymwelwyr.
Mae'r grwp CDCD hefyd yn
cyhoeddi 'Papur Bro' o'r enw 'Llais y Derwent' pob tri mis. Mae'na wefan ar
gyfer Llais y Derwent' ble mae hi'n bosib darllen ôl gopïau o 'Lais y Derwent'
yn rhad ac am ddim fel ffeiliau pdf. Mae
dolen i safle Llais y Derwent ar
wefan CDCD. Mae 'Llais' fel arfer yn 12 o dudalennau ac yn gynnwys erthyglau
gan ddysgwyr a Chymry alltud ar bob math o bwnc. Ar dudalen cefn 'Llais' mae
rhestr o fanylion cyswllt ar gyfer grwpia a dosbarthiadau yn Lloegr. Erbyn hyn
mae dros 30 grwpiau ar draws Lloegr
Mae hanes CDCD yn mynd yn ôl i ddosbarth
Cymraeg Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a dechreuodd yng Ngholeg Cymunedol Derby ( Tŷ Sant Heledd)
yn 1998. Doedd y gwersi dim yn mynd ymlaen dros dymor yr haf, felly wnaeth y grŵp
dechrau cwrdd heb diwtor er mwyn ymarfer ac wrth fynd ymlaen aeth y grŵp yn
annibynnol pan ddaeth y gwersi efo Cymdeithas Addysg y Gweithwyr i ben.
Mae dysgwyr Derby yn magu cysylltiadau efo
dysgwyr yng Nghymru ac ar draws Lloegr trwy ddefnyddio Facebook. Mae CDCDwedi dechrau grwp Facebook o'r enw Menter Iaith Lloegr a bellach mae dros fil o
aelodau, ac mae digwyddiad o rannau gwahanol o Loegr yn cael eu hysbysebu ar y
grwp.
No comments:
Post a Comment