Sunday 7 January 2018

Nadolig 2017 a Blwyddyn Newydd 2018




Mi ges i amser braf dros Fis Rhagfyr, Nadolig, Dydd Calan a dechrau'r flwyddyn newydd.
Ym mis Rhagfyr mi es i a Marilyn draw i Nottingham ar ddydd Mercher 13deg ar gyfer parti Nadolig Cymdeithas

Nottingham. Cawson ni noson hwyliog efo digonedd o berfformio gan Gôr Gwawr, Gwynne Davies a Viv Harris, Stephan Green a nifer eraill o'r gymdeithas, Cafodd Marilyn a fi amser da yn canu'r gitâr a'r Melodeon.
Yn anffodus cafodd y gwasanaeth carolau ei ohirio oherwydd tywydd drwg a doedd hi ddim yn bosib i ni fynd i'r ail ddyddiad.


Mi es i am dro ar ucheldir Alderwasley yn yr eira yng nghanol Mis Rhagfyr, ac yr oedd hi'n brydferth ond mor oer â'r Arctig!
Cyn Nadolig roedd Marilyn a finnau yn sâl efo anwyd ond wrth lwc yr oedden ni wedi gwella erbyn Nadolig.
Aethon ni draw i swydd Caer i dreulio Nadolig efo'r teulu cyn dod yn ôl am wythnos gyfan o ymlacio o flaen y tan, gwylio ffilmiau a darllen.
Mi es i am dro arall ar o Nadolig o amgylch Rhostir Stanton ger Bakewell, unwaith eto roedd eira ar y tir, ac yr oedd hi'n hynod oer.
Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn aethon ni am dro efo ffrindiau o Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar hyd yr High Peak Trail ac wedyn cawson ni bryd o fwyd blasus a diodydd yn Nhafarn Y Cwch, Cromford.
Ddoe, penwythnos cyntaf 2018 cawson ni gweithdy Cymraeg prysur efo 20 o bobl yn bresennol. Dyna beth yw blwyddyn newydd dda!



2 comments:

Marconatrix said...

Dach chi mwy hy na myfi wrth mynd i'r bryniau yn yr eira yng nghanol y gaeaf! Gwell gen i eistedd yn ymyl y tân :-)

JonSais said...

Efallai bach yn ffol yn mynd allan felly, ond mae'r awyr iach a'r golygfedd yn cyfiawnhau y gweithred.