Sunday 28 March 2010

Y Celtiaid ac arwyddion o'r Gwanwyn

Mi ges i benwythnos diddorol iawn. Ar ddydd Gwener mi wnes i yrru draw i Swydd Caer. Ar y ffordd mi wnes i fynd trwy ganol Leek. Mae'na hen groes Gristnogol yno. Yn ôl y son mae hi'n Groes o'r Cyfnod Sacsoniad, ond i mi mae hi'n edrych fel Croes Celtiaid. Wedyn wrth fynd ar draws yr ucheldir rhwng Cronfa Dwr Rudyard a thref Congleton mae rhaid gyrru ar ffordd uchel iawn. Fel arfer ydych chi'n gallu gweld Cymru ar y gorwel ond roedd hi'n rhy niwlog ar Ddydd Gwener. Felly mi nes i droi fy ngolwg i'r dwyrain, i'r ucheldir o gwmpas Axe Edge. Ces i fy synnu i weld olion dau luwch eira ar ben Axe Edge o hyd.
Wedyn es i ymlaen i Tarporley i aros dros nos yn Nhŷ fy rhieni cyn symud ymlaen, yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn i Wrecsam ar gyfer Cwrs undydd, sef Cyflwyniad i'r Celtiaid. Roedd y cwrs yn digwydd yng nghanolfan Partneriaeth Parc Caia. Roedd 6 ohonon ni yno ar wahân i Dr Siôn Aled Owen (y tiwtor).
Roeddwn wrth fy modd efo'r cwrs, enwedig oherwydd y cyfle i dreulio pum awr yn gwrando a sgwrsio yn yr hen iaith. Hefyd roedd hi'n wych i gael gweld hen ffrindiau eto.
Ar ôl y Cwrs roedd digon o amser i bicio i mewn i Wrecsam ac i fynd i Siop y Siswrn yn Farchnad y Bobl. Diwrnod braf!
Des i yn ôl i Swydd Derby ar fore Dydd Sul ac roedd hi'n petai bopeth yn trio rhwystro fi rhag cyrraedd adre, roedd pob math o beth o'm mlaen i, sef tractorau, ras beicwyr, carafanau. Mae'n amlwg bod y Gwanwyn ar y gorwel pan mae'n lonydd cefn gwlad yn llenwi efo tractorau, beicwyr a charafanau!

1 comment:

Corndolly said...

Ydy rhywbeth yn dweud wrthyt ti bod hi'n amser i ddychwelyd i Gymru :-)

Ond rwyt ti'n hollol gywir am y cwrs, roedd o'n ddiddorol iawn a'r tiwtor yn ddeallus iawn, ond i fod yn gallu aros yno am 5 awr, ac yn gwrando ar ac ymarfer siarad yr hen iaith yn rhagorol. Mae angen arnom am lawer mwy o bethau fel 'na.

Gyda llawer, es i'r gwely yn gynnar neithiwr - wedi blino'n lân !