Sunday, 7 November 2010

Ymarfer corff ac ymarfer iaith

Mi ges i ddechreuad pleserus iawn i'r penwythnos. Ar fore dydd Gwener es i draw i Nottingham er mwyn ymuno a Chymry Nottingham yn y Bore Coffi popeth yn Gymraeg misol yn Nhŷ Howell Price yn West Bridgford. Daeth 16 o bobl at ei gilydd am bron iawn dwy awr o sgwrs, te, coffi a phica maen! Roedd hi'n braf iawn cael gweld Viv Harris yn mynychu'r bore am awr gron! Mae gan Gymdeithas Nottingham rhaglen lawn y tymer yma efo amrywiaeth o siaradwyr, gwasanaethau Capel, gwasanaeth carol dwyieithog ym Mis Rhagfyr a Noson Lawen ar ddiwedd tymer 2010-2011 ym Mis Mai. Gwelir www.devamedia.co.uk/cymdeithas/nottingham am fanylion llawn. Yr ydw i'n edrych ymlaen at y cyfarfod nesa yn arw.
Ar ôl y cyfarfod mi wnes i deithio draw i Swydd Caer am y penwythnos. Ro’n i'n aros yn Tarporley gyda fy rhieni. Ces i gip ar randir fy nhad. Eleni wnaeth o wedi codi tŷ gwydr 'newydd' ar y rhandir gan ddefnyddio hen ddrysau!
Ar y Sadwrn es i draw i Gaerwys er mwyn cymryd rhan yn daith Cerdded Cymdeithas Edward Lloyd o amgylch Caerwys. Roedd hi'n bwrw glaw yn drwm pan gyrhaeddais pan cilio gwnaeth y glaw a chawson ni ddim glaw yn ystod y daith cerdded. Cafodd y daith ei arwain gan Harri Hughes. Cawson ni sawl ffaith ddiddorol am yr hen dref a'r ardal. Roedd y cwmni yn gyfeillgar ac mi ges i sawl sgwrs ddiddorol efo'r aelodau. Roedd tirwedd yr ardal yn dlws tu hwnt efo lliwiau hydref ym mhobman. Mi ddylai unrhyw ddysgwr profiadol meddwl am ymuno a'r gymdeithas ar eu teithiau. Mae gan y gymdeithas safle we ( Gwelir www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/tud/clwyd.htm ) ble mae hi'n bosib gweld rhaglen y gymdeithas. Mae'r Gymdeithas yn cynnal 3 cangen ar draws Cymru felly dyw hi ddim rhyw bell ar gyfer y rhan mwyaf ohonon ni, hyd yn oed y rhai fel fi, sy'n byw dros y ffin yn Lloegr. Ymarfer corff ac ymarfer iaith ar yr un pryd! Gwych!!

1 comment:

Viv said...

Diolch am y crybwyll Jonathan. Blog diddorol mas draw fel arfer! Viv