Saturday 26 June 2010

Dawnsio yn yr haul

Cawson ni, sef Marilyn a finnau, diwrnod bendigedig yn Bakewell heddiw. Roedd hi'n 'Diwrnod Dawns Bakewell' ac roedd'na wledd o gymdeithasau a chlybiau dawns yno, rhai o dramor.
Wnaethon ni gyrraedd Bakewell am hanner dydd ac roedd 'Black Pig Border Morris' yn perfformio wrth ochr yr afon. Roedd ganddyn nhw fand o gerddorion lliwgar a thalentog ac roedd eu fersiwn cyfoes nhw o ddawns Morris yn dra gwahanol. Wedyn welon ni grŵp o'r enw '400 Roses', sef grŵp o fenywod a oedd yn gwneud dawns bola ond yn cyfuno traddodiad dawns bola efo dawns gwerin o Loegr. Roedden nhw'n wych.
Ar ôl cinio blasus aethon ni i dreulio'r prynhawn o dan gysgod y coed yn gerddi Glan yr afon yn gwylio dawns Tango efo bobl o dras Argentaidd, dawnsfeydd Affricanaidd s grŵp oedd yn perfformio dawns Wyddelig.
Roedd Bakewell yn llawn dop efo cannoedd o bobl ond roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar a hamddenol. Mi fydden ni'n mynd yn ôl yn 2011 yn bendant!

Monday 21 June 2010

Cerddoriaeth, Alawon Gwerin a chwrw yn yr haul.

Cynhaliwyd Diwrnod Cerddoriaeth Gerddi Lea ar Ddydd Sul y penwythnos yma. Roedd nifer fawr o berfformwyr gwahanol yn mwynhau'r amgylchedd hyfryd Gerddi Rodendrom Lea ger Cromford. Gwelir http://leagarden.co.uk
Roedd hi'n gyfle gwych i Marilyn a finnau gydag ein ffrindiau Ed ac Elin i 'jamio' yn yr haul.
Mae hi'n le hudolus efo golygfeydd gwych ar draws dyffryn Afon Derwent.

Saturday 12 June 2010

Hwyl yn y ffair



Cawson ddiwrnod braf heddiw. Wnaethon ni cychwyn efo ymweliad a Marchnad y Ffermwyr yn Belper. Roedd digon o ddewis o bethau blasus fel cacennau, siocled, llysiau tymhorol, mefus cyntaf yr haf. Mi wnes i brynu mintys oren i blannu yn yr ardd cefn, a mefus i fwyta i'm swper heno.
Ar ôl hanner dydd aeth Marilyn a finnau i ymweld â'r Ffair Peiriannau Ager Belper. Wnaethon ni fynd a Colin ein ffrind a chawson ni amser braf yn crwydro'r stondinau, y cylch arddangos ac edrych at y hen bethau oedd yn cael eu harddangos.


Roedd sawl mil o bobl ar y maes. Roedd'na safle ffair draddodiadol efo stondin saethu, reid ceffylau pren, ceir dogems, candi-fflos a phethau melys. Hefyd, diolch byth roedd'na babell Cwrw go iawn. Wnaeth y crwydro o dan yr haul poeth codi dipyn o syched arnon ni. Roedd nifer fawr o hen geir, hen dractorau gan gynnwys ambell Fergie Bach a hyd yn oed darparwyr Bwyd o Gymru. Mae'n anodd osgoi'r Cymry mae'n debyg hyd yn oed yn Lloegr!