Saturday 26 June 2010

Dawnsio yn yr haul

Cawson ni, sef Marilyn a finnau, diwrnod bendigedig yn Bakewell heddiw. Roedd hi'n 'Diwrnod Dawns Bakewell' ac roedd'na wledd o gymdeithasau a chlybiau dawns yno, rhai o dramor.
Wnaethon ni gyrraedd Bakewell am hanner dydd ac roedd 'Black Pig Border Morris' yn perfformio wrth ochr yr afon. Roedd ganddyn nhw fand o gerddorion lliwgar a thalentog ac roedd eu fersiwn cyfoes nhw o ddawns Morris yn dra gwahanol. Wedyn welon ni grŵp o'r enw '400 Roses', sef grŵp o fenywod a oedd yn gwneud dawns bola ond yn cyfuno traddodiad dawns bola efo dawns gwerin o Loegr. Roedden nhw'n wych.
Ar ôl cinio blasus aethon ni i dreulio'r prynhawn o dan gysgod y coed yn gerddi Glan yr afon yn gwylio dawns Tango efo bobl o dras Argentaidd, dawnsfeydd Affricanaidd s grŵp oedd yn perfformio dawns Wyddelig.
Roedd Bakewell yn llawn dop efo cannoedd o bobl ond roedd yr awyrgylch yn gyfeillgar a hamddenol. Mi fydden ni'n mynd yn ôl yn 2011 yn bendant!

1 comment:

Corndolly said...

Cawsoch chi eich dau dywydd braf am y diwrnod.