Saturday 12 June 2010

Hwyl yn y ffair



Cawson ddiwrnod braf heddiw. Wnaethon ni cychwyn efo ymweliad a Marchnad y Ffermwyr yn Belper. Roedd digon o ddewis o bethau blasus fel cacennau, siocled, llysiau tymhorol, mefus cyntaf yr haf. Mi wnes i brynu mintys oren i blannu yn yr ardd cefn, a mefus i fwyta i'm swper heno.
Ar ôl hanner dydd aeth Marilyn a finnau i ymweld â'r Ffair Peiriannau Ager Belper. Wnaethon ni fynd a Colin ein ffrind a chawson ni amser braf yn crwydro'r stondinau, y cylch arddangos ac edrych at y hen bethau oedd yn cael eu harddangos.


Roedd sawl mil o bobl ar y maes. Roedd'na safle ffair draddodiadol efo stondin saethu, reid ceffylau pren, ceir dogems, candi-fflos a phethau melys. Hefyd, diolch byth roedd'na babell Cwrw go iawn. Wnaeth y crwydro o dan yr haul poeth codi dipyn o syched arnon ni. Roedd nifer fawr o hen geir, hen dractorau gan gynnwys ambell Fergie Bach a hyd yn oed darparwyr Bwyd o Gymru. Mae'n anodd osgoi'r Cymry mae'n debyg hyd yn oed yn Lloegr!

No comments: