Monday 12 December 2011

Nadolig Llawen

Efallai ei bod hi'n braidd yn gynnar, ond Nadolig Llawen! Mae'r dosbarth Cymraeg Belper wedi cael ei gyfarfod olaf a'r parti Nadolig, mae'r Cylch Dysgwyr Derby wedi cynnal y gweithdy olaf cyn 'dolig a'r Gymdeithas Cymry Nottingham wedi cael gwasanaeth carolau dwyieithog ar brynhawn Sul 11 o Ragfyr. Yr ydw i wedi derbyn llwyth o gardiau Nadolig Cymraeg, felly dw i wedi bod yn brysur iawn yn sgwennu cyfarchiadau tymhorol i'm cyfeillion pell ag agos. Gobeithio bydd 2012 yn flwyddyn heddychol. Gobeithio hefyd mi fydd y sefydliadau Cymraeg a Chymreig yr ardal yma
parhau i ddarparu ystod eang o weithgareddau diddorol i'n aelodaeth.
Bore dydd Sadwrn 10fed o Ragfyr yr oedd 11 o bobl yn y gweithdy Cymraeg yn NhÅ· Cwrdd y Crynwyr yn Derby a chawson ni amser da yn chwarae'r fersiwn Cymraeg o'r gemau bwrdd Monopoli a Scrabble. Wedyn ar fore Dydd Sul wnaeth 5 ohonon ni'n mynd am dro ar hyd glannau'r afon Derwent rodd hi'n braf i ddechrau ond erbyn yr ail hanner o'r daith roedd hi'n bwrw glaw yn drwm iawn. Ond er gwaetha’r tywydd gwlyb roedd hi'n daith bleserus efo golygfeydd da o'r dyffryn. Roedd asyn a'i ebol mewn cae wrth ochr y llwybr, golygfa digon Nadoligaidd.


2 comments:

neil wyn said...

Nadolig Llawen i tithau hefyd Jon.

Dwi newydd darganfod fersiwn ar-lein o Scrabble Cymraeg (ar ol cael fy ysbrydoli i chwilio am y ffasiwn peth gan dy flog di!) sydd ar gael ar Wabble.org

Fasai'n syniad da setio gem i fyny fel arbrawf ella..? mae'n posib wneud gem parhau am ddyddiau neu wythnosau dwi'n meddwl, ond mae angen rhywun i chwarae yn eu erbyn i'w wneud dwi'n credu.

hwyl am y tro, Neil

JonSais said...

Dyna syniad da. Mi faswn i'n fodlon cymryd rhan.