Friday 30 December 2011

Y Prosiect darllen


Bob blwyddyn dw i'n ceisio cadw at amserlen darllen personal, sef darllen o leiaf un llyfr y mis trwy'r flwyddyn. Mae rhai yn llyfrau newydd sbon, eraill wedi cael eu prynu mewn siopau llyfrau ail-law ar draws y Wlad. Mae'r llyfrau newydd sbon yn cael eu prynu ar fy nheithiau o gwmpas Cymru yn yr haf neu trwy godi'r ffôn a siarad â Gwynne yn siop Awen Meirionydd yn y Bala.
Weithiau dw i'n cael'false start' mewn llyfr sy dim yn plesio ond fel arfer dw i'n llwyddo i orffen y dasg. Felly eleni dw i wedi darllen; Not Quite White gan Simon Thirsk, mae'n nofel sy'n son am y perthynas rhwng Cymry Cymraeg, bobl dŵad a dysgwyr Cymraeg. Hefyd dwi wedi darllen y llyfr enwog gan Islwyn Ffowc Elis Cyn Oeri'r Gwaed sy'n gasgliad o ysgrifau byr ond diddorol. Cafodd un ohonyn nhw, sef Y Sais ei defnyddio gan barti adrodd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam a wnaeth y gwleidydd Rod Richards codi nyth cacwn thrwy gyhuddo'r darn o fod yn hiliol. Fel Sais fy hunan sy wedi darllen y darn dan sylw, alla i ddim dweud ei fod yn hiliol yn fy marn i. Dw i wedi darllen sawl nofel yn 2011 gan gynnwys: Un o Ble Wyt ti? gan Ioan Kidd a hefyd Yn y Tŷ Hwn gan Siân Northey. Dw i hefyd wedi mwynhau gweithiau gwleidyddol eu naws fel 'The Welsh Extremist', a 'Bydoedd', y ddau gan Ned Tomos, Y Cawr o Rydcymerau gan Gwyr Hywel, Yr Hawl i Oroesi gan Simon Brooks, Gyfral o Dan gan Arwel Vittle. Roeddynt i gyd yn addysg i mi. Eleni dw i hefyd wedi darllen tipyn bach o Gofiannau sef Can Dros Gymru gan Dafydd Iwan, Nesa Peth i Ddim gan Feic Povey ac yn olaf dw i wedi darllen tipyn bach o hiwmor, sef Dyddiadur Ffermwyr Ffowc.
Mae gen i domen bach o lyfrau wrth fy ochr ar ei hanner darllen neu yn aros i gael ei darllen. Mae'r rheiny'r cynnwys Radical Gardening gan George McKay, Pwll Enbyd gan Alun Cob sy wedi derbyn adolygiadau da yn y wasg Cymraeg, a chofiant Kate Roberts gan Alan Llwyd a Stori Saunders Lewis gan Gwynn ap Gwilym. Digon o waith darllen i gadw fi'n brysur trwy'r gwanwyn.

9 comments:

Corndolly said...

Phew, Jonathan. Rwyt ti wedi mynd wrthi eleni, dw i'n meddwl. Ond diolch am fy atgoffa i ailddechrau darllen cyn bo hir, dw i wedi colli fy ffordd rhywsut, oherwydd y gwaith dysgu, felly, dw i ar fin ailddechrau gwneud amser i fi fy hun.

dghughes82 said...

Dyna syniad da iawn - mae gen i gasgliad enfawr o lyfrau heb eu darllen, felly bydd rhaid i mi ysgrifennu rhyw fath o gynllun hefyd - achos mae'n rhy hawdd i mi treulio amser yn gwneud pethau eraill.

neil wyn said...

dwi'n adnabod sawl un o'r lyfrau ar dy silffoedd! mae cadw at amserlen yn arferiad da, tri i neud rywbeth felly yn 2012

sgentilyfrimi said...

Mae'n dda cael rhyw brosiect bach ar fynd, er roedd hwn yn un uchelgeisiol iawn! Falle cei di syniad am lyfr neu ddau i 2012 gan Sgentilyfrimi!

JonSais said...

Dweud y gwir, mi wnes i anghofio crybwl nofel arall fy mod i wedi darllen yn ystod 2011, sef Lladd Duw gan Dewi Prysor. Roedd hi'n glamp o stori. Felly cyfamswm y llyfrau am 2012 oedd 13.

DSO said...

Dw i'n darllen yn Gymraeg bob bore ar y daith tren i'r gwaith. Ar hyn o bryd dw i'n darllen Yn Y Ty Hwn, ac mae'n hyfryd -- 'telynegol,' fel y mae'r clawr yn ei alw.

Jyst cyn hynny, darllenais i 'Mr. Perffaith,' nofel comedi ramantus. So hyn chic-lit, cweit, ond tasai rhywun ddim yn hoffi chic-lit, fasai fe ddim yn ei hoffi fe chwaith, wi'n credu.

Nesaf, dw i'n cynllunio darllen 'Llafnau,' nofel ditectif ynglyn a datblygiad fferm gwynt yng Ngheredigion. Ar ol hynny, mae 'Dyn Pob Un' ac 'Y Ferch ar y Ffordd' a 'Dirgel Ddyn' yn aros amdani...

DSO said...

Wwp. Identity crisis. Mae DSO = Tahl/Diane, o'r SSiW.

Ann Jones said...

Diolch am fy nghyfeirio at hwn, Jonathan. Mae un o rhain ar fy silffau i, hefyd: Islwyn Ffowc Elis Cyn Oeri'r Gwaed. Dwi ddim wedi ei ddarllen eto - ond blwyddyn yma, efallai! Dwi am darllen rhai o'r llyfray y phrynais ym Mangor a Chaernarfon gyntaf. Mw ges i lwyth mawr o lyfrau ailaw yn Oxfam Bangor a siop elysen yng Nghaernarfon yn cynnwys llyfr gynnar gan Gwen Parrot (Cwlwm Gwaed). Dwi wedi gorffen hwn a mwynhais. Y her mwyaf, dwi'n meddwl ydi Petrograd gan William Owen Roberts a enilloedd llyfr y flwyddyn - gwelir
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8100000/newsid_8101900/8101960.stm

JonSais said...

Ann, diolch am dy ymateb, mi fydda i'n edrych at y safle we heno gobeithio.