Wednesday 25 January 2012

Penwythnos Cymreig


Mi gawson ni benwythnos difyr iawn y penwythnos diweddaf. Yn gyntaf mi wnes i dreulio prynhawn y dydd Gwener yn cwrdd â 4 o gyfeillion yng Nghanolfan Siopau Westfield yn Derby yn trafod datganoli a'r datblygiadau yn yr Alban a Chymry a'r effaith mae hyn yn cael ar agweddau pobl yn Lloegr. Yr oedd yn wneud hyn at gais BBC Cymru ar gyfer y rhaglen radio Taro'r Post a rhaglen Newyddion BBC Cymru ar gyfer S4C. Cawson ni amser da yng nghwmni'r gohebydd Craig Duggan. Er gwaetha’r ffaith ein bod ni wedi treulio tair awr a hanner yn recordio dim ond darnau bach wnaeth cael eu darlledu yn y pen draw
Ar y Sadwrn cawson ni'r Gweithdy Cymraeg misol yn Derby cyn i Marilyn a finnau'n cwrdd â'n gyfaill Martin am ginio yn siop Scarthin, Cromford. Wedyn aethon ni ymlaen i weld lansiad gan gwmni The Little Welsh Shop yn Willersley Castle ger Cromford. Roedd y cwmni yn lansio dwy delyn newydd sy'n cael eu cynhyrchu yn Swydd Derby er mwyn cael eu marchnata yn y D.U. fel rhan o'r lansiad roedd'na gyngerdd gyda 5 o ddisgyblion Helen Naylor Edwards yn canu'r delyn fel côr delyn. Hefyd roedd canu clasurol a ymddangosiad ganu unawdes. Hyn oll efo gwin a diodydd mewn awyrgylch hefryd.
Ar y Sul ymlaciais i o flaen y radio a theledu yn gwrando ar / gwylio rhaglenni Cymraeg eu hiaith. Wedyn ar ddydd Lun wnes i dreulio dwy awr ar ben Alport Height yn gwylio'r golygfeydd gaeafol efo cymylau trawiadol o fy mlaen i wrth i mi wrando ar Radio Cymru ar y radio sydd yn y car, od wir, dw i'n gallu clywed Radio Cymru yng nghanol Lloegr, dyna beth braf ond yw e?

4 comments:

Rhys Wynne said...

Er gwaetha’r ffaith ein bod ni wedi treulio tair awr a hanner yn recordio dim ond darnau bach wnaeth cael eu darlledu yn y pen draw

Mae hynna'n boen. Pobl Radio Cymru (ac unrhyw wasanaeth teledu/radio arall dybiwn i) yn meddwl sgin pobl ddim byd gwell i wneud, a bod o'n fraint mawr i chi, tra mai chi'n sy'n gwneud cymwynas anferthol efo nhw.

Sori, rant drosodd.

JonSais said...

Ond mae hi'n wastad yr un fath. Daeth rhalgen 'Hacio' draw i recordio cyfarfod wythnosol Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn 2005, wnaethon nhw ffilmio trwy'r dydd ond cwta 7 minud a gafodd ei defnyddio.

DSO said...

Os oes iPhone gyda ti, neu ffon Android dw i'n credu, alli di wrando ar Radio Cymru (yn fyw) yn y car ym hobman, yn rhad ac am ddim. Dw i'n ei wneud e yma, yn America!

Yr hyn sydd eisiau yw app TuneIn (am ddim).

Dw i'n gwrando ar Radio Cymru yn fy nghar drwy TuneIn. Does dim cysylltiad MP3 yn fy nghar, felly, dw i'n defnyddio y Satechi Wireless FM Transmitter (ar gael trwy Amazon) -- dim rhy ddrud, ac yn dda iawn.

JonSais said...

Sdim iphone 'da fi yn anffodus!