Saturday 5 May 2012

Ble mae'r Gwanwyn?


Ar ôl mwynhau tywydd braf ym Mis Mawrth mae hi wedi bod yn siom mawr gweld tywydd mor wael trwy Fis Ebrill. O’n i’n gobeithio dechrau gweithio o ddifrif ar yr ardd cefn ond ar wahân i balu un o’r gwely llysiau a thorri’r lawnt dwywaith prin fod gen i gyfle i wneud gwaith yn yr ardd o gwbl.

   Yn y gwaith yn Bakewell dw i wedi gweld nifer o wenoliaid yn hedfan o gwmpas siediau'r farchnad gwartheg, ac yng nghanol yr afon ger y bont troed roedd par o iâr ddŵr yn codi nyth bach twt ar ben graig ond och a gwae mae llifogydd Mis Ebrill wedi sgubo’r nyth i ebargofiant.
   Ddoe, roeddwn yn Nottingham yn mwynhau cyfarfod misol y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, dwedodd un o’r gwragedd ffyddlon ei bod hi wedi bod yn gweddïo am law, felly gofynnais iddi hi ddechrau gweddïo am haul, dw i’n mynd ar wyliau i’r ynys Jersey ym Mis Mai ac wedyn i Garn Madryn ym Mhenllyn ym Mis Mehefin a dw i eisiau cael gadael yr ymbarél gartref!

No comments: