St Helier, prif dref yr ynys. Cawson ni penwythnos gwyl i ddechrau ond erbyn Dydd Llun roedd y tywydd wedi troi ac ar ol dydd Mawrth redd hi'n crasboeth.
Mae'r rhieni digon bregus erbyn hyn a dim yn gallu cerdded yn bell felly roedden ni'n treulio’r wythnos yn mynd o un olygfa i'r llall ac o un caffi/tŷ bwyta i'r llall. Mi gafodd M. a finnau rhai teithio cerdded ar draethau gyda'r nos a hefyd bach o gyfle i siopa yn St.Helier.Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd dim o'r iaith leol, (Ffrangeg yr ynys /patois) i'w glywed o gwbl. Mae mewnlifiad o Bobl iaith Saesneg dros y 150 mlwydd diweddaf wedi difetha’r iaith frodorol dim ond enwau pentrefi, enwau lle a cherrig beddi sy ar ôl i ddangos bod Ffrangeg yr ynys oedd yr iaith i'r mwyafrif yr ynyswyr cyn 1900.
Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
Mae gan fy Mam, a chafodd ei geni a'i magu ar yr ynys ambell hanes trist am y cyfnod 1940-45. Roedd bwyd yn brin iawn ar yr ynys, yn enwedig rhwng 1944 a 1945 ac roedd rhaid iddi hi deithio'r ynys ar gefn beic yn chwilio ymhlith ffermwyr y cefn gwlad ar gyfer bwyd megis gwenith, llaeth a llysiau ar gyfer ei phlant hi, Roedd llongau'r Groes Goch yn achub bywydau'r ynyswyr trwy ddod a chyflenwad bwyd yn y cyfnod hwn. Peth gwarthus am y cyfnod oedd cipio rhai pobl o dras Iddewig o'r ynys gan yr Almaenwyr a'i hel draw i wersyllfa'r Natsïaid ble wnaeth farw sawl unigolyn anffodus o'r ynys.
Roedd y daith adref ar awyren Jet yn ddiddorol hefyd wrth adael roedden ni'n medru gweld yr ynys i gyd a Sark a Guernsey. Wedyn wrth i ni groesi i'r D.U. roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint, Cernyw, a rhan fwyaf o Gymru gan gynnwys Abertawe, y Cymoedd, Sir Benfro, Ceredigion a hyd yn oed pen llyn. Wrth i mi weld y gorwel tua’r gorllewin mi wnes i weld yr wyddfa. Dim yn aml mae rhywun yn gweld cymaint mewn taith o 50 muned!
No comments:
Post a Comment