Roedd digon o amser i gerdded ar hyd traeth Porth Neigwl, a hefyd i ymweld ag Abersoch, Llanbedrog, Plas Glyn-y-Weddw, Mynytho, Porthmadog a Phwllheli.Ar y dydd Mawrth wnaethon ni gwrdd â Joella a’i chariad er mwyn cerdded i fyny’r Eifl, neu i fod yn fanwl gywir 'Tre'r Ceiri' sef hen Fryngaer ger Llithfaen. Roedd golygfeydd gwych o fynyddoedd Yr Eiri, Sir Fôn i'r gogledd, pen llyn i gyd a draw dros y for Iwerddon, Bryniau Wicklow.
Mi wnes i hel llyfrau ail law yn y siopau elusennol o amgylch Pwllheli ac mi ges i gryn dipyn o lwyddiant. Felly mae'na 7 o lyfr yn aros i'w darllen ar fy silffoedd.Arhoswn ni mewn 'bwythyn' o'r enw 'Tŷ Paul', ac i ddweud y gwir roedd hi'n gyfforddus a chlyd. Mi wnes i fachu ar y cyfle i orffen darllen Bywyd Kate Roberts a sawl cylchgrawn oedd wedi aros am sbel heb ei darllen.
Cawson ni dywydd braf o'r Dydd Sul tan y Dydd Iau pan ddaeth y glaw. Daethon ni yn ôl i Swydd Derby ar y dydd Sadwrn yn barod i ddychwelyd i'r drefn arferol.
2 comments:
Mae'n swnio fel gwyliau da iawn. Cawn ni sgwrs am wyliau cyn bo hir
Do, cawson ni gryn dipyn o hwyl!
Post a Comment