Wednesday 15 August 2012

Eisteddfod Bro Morgannwg 2012

Yr wythnos ddiweddar o'n i'n mwynhau dogn go dda o Gymreictod ar faes yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Mi wnes i deithio o Loegr i Gymru ar y Sul efo fy nghyfaill o ardal Chesterfield, sef Martin. Ar ôl croesi'r Môr Hafren oedd dipyn o amser sbâr felly mi wnaethon ni gipio ar y cyfle i ymweld ag Amgueddfa Gwerin Cymru yn Sant Ffagan. Roedd hi'n braf cael crwydro'r safle, ond doedd dim digon o amser 'da ni, cwta tair awr, mewn gwirionedd, a doedd hi ddim yn ddigon i weld y cyfan.


Wedyn aethon ni ymlaen i'n Westy wrth ochr Maes Awyr Caerdydd. Roedden ni'n aros o fewn 5 milltir i'r maes ac roedd hi'n ddigon hawdd mynd ar faes yr Eisteddfod bob diwrnod rhwng Dydd Llun a Dydd Gwener. Doedd Martin dim wedi ymweld â'r brifwyl o'r blaen felly mi wnes i fy norau glas i dangos tipyn bach o bob dim oedd ar gael.

Ar wahân i lenwi rôl fel tywysydd answyddogol i Martin roedd gen i fach o waith i'w wneud ar faes D sef cymryd rhan mewn cyflwyniad 'Clebran y tu hwnt i Gymru' sesiwn am ddysgwyr y tu allan i Gymru, nid yn unig yn Lloegr ond hefyd yn y Wladfa.

Eleni roedd sawl newid i'w gweld ar y maes. Dim ond un safle bwyd, dim ond 2500 o seddi yn y Pafiliwn, dim ond un llwyfan perfformio ar gyfer bandiau a pherfformwyr eraill wrth ochr yr ardal bwyd. Ond er gwaethaf hyn roedd hi'n Eisteddfod dda. Un peth newydd da oedd y Maes Gwyrdd efo nifer o stondinau mewn Yurtiau o faint gwahanol gan gynnwys un Yurt enfawr. Roedd hefyd Tipi go iawn a nifer o brosiectau gwahanol fel y prosiect adeiladu cwch Celtiaid. Ar ran y tywydd yr oedd tipyn bach o law ar Ddydd Llun a'r dydd Mawrth ond roedd gweddill yr wythnos yn sych ac yn boeth.

Yn bendant yr oedd digonedd o bethau i dangos i Martin. Stondinau, siopau lyfrau, Peth wmbredd o gystadlaethau cerddorol a clasurol, adrodd, canu, gweld ffrindiau (Wiliam o Lundain i enwi dim ond un) ayyb. Mi wnaethon ni weld darlith ym Maes D am Iolo Morgannwg, aethon ni i weld cyfarfod lansio mudiad lobio dros yr iaith o'r
enw 'dyfodol', hefyd mi wnaethon ni wrando ar Leanne Wood, arweinyddes newydd Plaid Cymru. Roedd hi'n trafodi ar ei gweledigaeth hi am ddyfodol Cymru.
Erbyn diwedd dydd Gwener roedden ni wedi gweld llwyth o bethau ac wedi siarad â nifer fawr o ffrindiau hen a newydd. Roedden ni wedi blino yn llawn ac yn barod i deithio nôl dros y ffin ac ar draws canolbarth Lloegr er mwyn cyrraedd ein cartrefi. Rŵan dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych!

2 comments:

Corndolly said...

Diddorol iawn Jonathan. Dw i'n edrych ymlaen at Eisteddfod Ddinbych.

JonSais said...

A finnau!