Monday 27 August 2012

Chwibdaith i Buxton

Mi es i draw i Buxton am dair awr heddiw. Roedd ffair llyfrau ymlaen yn yr Ystafell Ymgynnull, felly o'n i deimlo felly pori o amgylch ambell stondin llyfr yn chwilota am fargeniau. Er mawr syndod i mi ddes i ar draws hen gopïau o'r cylchgrawn myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth o'r 50 degau sef Y Ddraig o dymer y Grawys 1955. Mae hi'n gylchgrawn dwyieithog efo cyfartaledd o dudalennau yn y ddwy iaith. Y diweddar Hywel Teifi Edwards oedd un o'r cyfranwyr. Hefyd roedd erthygl hynod o ddiddorol dan y pennawd 'Lle'r Gymraeg Mewn Cymdeithas Ddwyieithog gan Brenda Williams. Tybed os ydy hi dal ar dir byw?

Doeddwn i ddim mor ffodus efo'r tywydd roedd hi'n pistyllio glaw yn Buxton ac felly roedd rhaid swatio o dan yr ymbarél i gyrraedd nôl yn fy ngar yn ddigon sych!

No comments: