Cynhaliwyd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham diweddar yn Nhŷ Howell Price yn West Bridgford ar fore Gwener 8fed o Ragfyr, roedd 10 yn bresennol gan gynnwys chwaer Howell oedd wedi teithio o Sir Gaerhirfryn i aros gyda fe. Cawson ni sgwrs fywiog efo cwmni o bobl groesawgar a brwd dros yr iaith a'r pethe. Diolch yn arbennig i wraig Howell sef Maureen am ddarparu gwledd o gacenni, biscedi a mins peis.
Y diwrnod wedyn roedd hi'n ein tro ni yn Derby i groesawu dau aelod o Gymdeithas Cymry Nottingham i Weithdy Cymraeg Nadoligaidd Cylch Dysgwyr Derby. Roedd neuadd Eglwys y Bedyddwyr yn Littleover yn gynnes ac yn lle addas iawn i'r 13 oedd yn bresennol. Wnaethon ni chwarae Scrabble Cymraeg a chafodd y rhai oedd ar fwrdd Elin digon o amser i fynd ymlaen i ddechrau gem o Fonopoli Cymr
aeg. Mae'na ragor o bethau Nadoligaidd i ddod efo Cymdeithas Cymry Nottingham yn cynnal Parti Nadolig nos Fercher nesa ac wedyn ar bnawn Sul 16 o Ragfyr yn cynnal y gwasanaeth carolau dwyieithog blynyddol. Felly gobeithio mi fydd nifer o ddysgwyr lleol yn gallu bachu ar y cyfle i gael gwledd o garolau Cymraeg!
No comments:
Post a Comment