Saturday 1 December 2012

Diwrnod oer yn swydd Derby

Mi ges i ddiwrnod braf heddiw. Mi es i am dro efo fy annwyl wraig o amgylch rhan o gronfa dwr Carsington, neu 'Glan y Môr Swydd Derby' fel mae rhai pobl yn ei galw fo. Roedd hi'n uffernol o oer ond yr oedd yr awyr yn las ac roedd nifer o bobl i'w gweld yn hwylio, yn reidio beic neu yn cerdded. Mi wnes i gyfri 15 o gwch hwylio ar y llyn. Roedd nifer go dda o bobl hefyd yn gwylio adar yn un o guddfannau gwylio adar ar lan y llyn. Pan oedden ni'n cerdded heibio coedyn yr oedd Jac a do yn eistedd ymhlith canghennau’r goeden efo ei blu wedi'i phwmpio i fyny yn erbyn yr oerfel.

Ar ôl ein taith cerdded ar hyd yr argae aethon ni am ginio bach blasus yn y tŷ bwyta sy'n rhan o'r canolfan ymwelwyr. Roedden nhw'n gweini cawl pannas a ffa-menyn. Roedd hi'n hyfryd. Mae hi'n bosib gweld golygfeydd godidog o'r tŷ bwyta gan gynnwys golygfa o ynys efo cylch meini a gallu bod yn addas ar gyfer yr eisteddfod Genedlaethol Cymru petai hi'n bosib dwyn perswâd ar aelodau'r orsedd i ddod ar draws Clawdd Offa i Swydd Derby. Ar ôl ein hamser yng Ngharsington wnaethon ni gyrru draw i Gromford i gael tipyn bach o sglodion a peas stwnch o'r siop sglodion lleol. Unwaith eto bwyd derbyniol iawn ar ddiwrnod mor oer.
Fory mi fydden ni'n mynd i weld Gŵyl Bwyd Nadolig Belper ac yn gobeithio am wledd arall. Gawn ni weld.

No comments: