Monday 28 May 2012

Ymweliad i Jersey

Yr ydw i wedi dod adref ar ôl truelio wythnos draw ar ynys Jersey yng nghwmni fy annwyl wraig a'm rhieni. Yr oedden ni'n aros mewn gwesty o'r enw Millbrook House Hotel ar gyrion
St Helier, prif dref yr ynys. Cawson ni penwythnos gwyl i ddechrau ond erbyn Dydd Llun roedd y tywydd wedi troi ac ar ol dydd Mawrth redd hi'n crasboeth.
Mae'r rhieni digon bregus erbyn hyn a dim yn gallu cerdded yn bell felly roedden ni'n treulio’r wythnos yn mynd o un olygfa i'r llall ac o un caffi/tŷ bwyta i'r llall. Mi gafodd M. a finnau rhai teithio cerdded ar draethau gyda'r nos a hefyd bach o gyfle i siopa yn St.Helier.
Roedd nifer fawr o ymwelwyr o wlad Ffrainc yno ac roedd cryn dipyn o'r iaith Ffrangeg i'w glywed ar y strydoedd. Roedd hi'n yn eironig braidd oherwydd doedd dim o'r iaith leol, (Ffrangeg yr ynys /patois) i'w glywed o gwbl. Mae mewnlifiad o Bobl iaith Saesneg dros y 150 mlwydd diweddaf wedi difetha’r iaith frodorol dim ond enwau pentrefi, enwau lle a cherrig beddi sy ar ôl i ddangos bod Ffrangeg yr ynys oedd yr iaith i'r mwyafrif yr ynyswyr cyn 1900.
Mae'r ynys yn lle digon diddorol, mae gan St Helier hen farchnad liwgar efo cynnyrch lleol a marchnad bwyd mor ar wahân. Mae'na sawl porthladd bach i longau'r pysgotwyr a hefyd digon o olion y cyfnod chwerw1940-1945 pan oedd byddin yr Almaenwyr wedi meddiannu’r ynys.
Mae gan fy Mam, a chafodd ei geni a'i magu ar yr ynys ambell hanes trist am y cyfnod 1940-45. Roedd bwyd yn brin iawn ar yr ynys, yn enwedig rhwng 1944 a 1945 ac roedd rhaid iddi hi deithio'r ynys ar gefn beic yn chwilio ymhlith ffermwyr y cefn gwlad ar gyfer bwyd megis gwenith, llaeth a llysiau ar gyfer ei phlant hi, Roedd llongau'r Groes Goch yn achub bywydau'r ynyswyr trwy ddod a chyflenwad bwyd yn y cyfnod hwn. Peth gwarthus am y cyfnod oedd cipio rhai pobl o dras Iddewig o'r ynys gan yr Almaenwyr a'i hel draw i wersyllfa'r Natsïaid ble wnaeth farw sawl unigolyn anffodus o'r ynys.
Roedd y daith adref ar awyren Jet yn ddiddorol hefyd wrth adael roedden ni'n medru gweld yr ynys i gyd a Sark a Guernsey. Wedyn wrth i ni groesi i'r D.U. roedd hi'n bosib gweld Dyfnaint, Cernyw, a rhan fwyaf o Gymru gan gynnwys Abertawe, y Cymoedd, Sir Benfro, Ceredigion a hyd yn oed pen llyn. Wrth i mi weld y gorwel tua’r gorllewin mi wnes i weld yr wyddfa. Dim yn aml mae rhywun yn gweld cymaint mewn taith o 50 muned!




Saturday 5 May 2012

Ble mae'r Gwanwyn?


Ar ôl mwynhau tywydd braf ym Mis Mawrth mae hi wedi bod yn siom mawr gweld tywydd mor wael trwy Fis Ebrill. O’n i’n gobeithio dechrau gweithio o ddifrif ar yr ardd cefn ond ar wahân i balu un o’r gwely llysiau a thorri’r lawnt dwywaith prin fod gen i gyfle i wneud gwaith yn yr ardd o gwbl.

   Yn y gwaith yn Bakewell dw i wedi gweld nifer o wenoliaid yn hedfan o gwmpas siediau'r farchnad gwartheg, ac yng nghanol yr afon ger y bont troed roedd par o iâr ddŵr yn codi nyth bach twt ar ben graig ond och a gwae mae llifogydd Mis Ebrill wedi sgubo’r nyth i ebargofiant.
   Ddoe, roeddwn yn Nottingham yn mwynhau cyfarfod misol y Bore Coffi Popeth yn Gymraeg, dwedodd un o’r gwragedd ffyddlon ei bod hi wedi bod yn gweddïo am law, felly gofynnais iddi hi ddechrau gweddïo am haul, dw i’n mynd ar wyliau i’r ynys Jersey ym Mis Mai ac wedyn i Garn Madryn ym Mhenllyn ym Mis Mehefin a dw i eisiau cael gadael yr ymbarél gartref!