Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Bore Coffi Popeth yn Gymraeg 2013 eu cynnal yn Nhŷ Viv Harris yn West Bridgford, Nottingham bore dydd Gwener 4 o Ionawr. Roedd 9 ohonon ni'n bresennol, nifer parchus wrth feddwl ei bod hi'n mor gynnar yn y flwyddyn. Cawson ni sgwrs fywiog a chyflenwad hael o gacenni a bisgedi. Roedd sawl un yn absennol gwaetha modd, ond gobeithio bydd y niferoedd yn ôl at lefelau arferol tro nesa. Yn y cyfamser diolch yn fawr i Viv am ei groeso mawr.
2 comments:
Ond y cwestiwm mawr ydy: wnaethoch chi ganu? ;-)
Diolch Jonathan, braf oedd gael dy cwni braf. Dyw DSO ddim yn gwybod ein bod ni'n rhy frysur yn bwyta danteithion a chloncian i ganu!
Viv
Post a Comment