Monday 15 July 2013

Diwrnod braf yn Belper


Cynhaliwyd Gŵyl Bwyd Belper 2013 dros y penwythnos diweddar. Roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd nifer o ddigwyddiadau yn digwydd ochr wrth ochr i'r Ŵyl. Ar nos Sadwrn roedd cyngerdd rhad ac am ddim yn Eglwys Iesu Grist. Daeth dau gôr, sef Côr Meibion Chapel-en-le-frith a Chôr Meibion Derwent, at ei gilydd i ddiddani’r gynulleidfa. Wnaeth Côr Chapel-en-le-frith hyd yn oed canu Ar hyd y nos, efo'r bennod gyntaf yn y Gymraeg.


Ar y dydd Sul cafodd Stryd Fawr Belper ei gau, ac roedd y lle yn llawn stondinau bwyd a chynnyrch lleol a sawl mil o bobl.

Roedd y gerddi yng nghanol y dref wedi meddiannu gan stondinau megis siop 'Sound Bites' o Derby sy'n gwerthu bwydydd figan a llysieuol. Hefyd roedd  llwyfan perfformio yng nghanol y gerddi, a llwyfan arall y tu ôl i dafarn Yr Alarch Du.

Felly cawson ni bwyd blasus a hefyd cryn dipyn o flas ar y gerddoriaeth byw a oedd yn cael ei berfformio. Mi faswn i roi marciau deg allan o ddeg i'r grŵp 'Jiggery Folkery' a oedd yn perfformio

cymysgydd o ganeuon gwerin a hen ffefrynnau megis can Iwan MacColl 'Dirty Old Town'.
Diolch i'r trefnydd ac i bawb a oedd yn cynnal stondinau neu yn perfformio am ddiwrnod difyr iawn.

3 comments:

Rhys Wynne said...

Swnio fel lot o hwyl!

Falle mod i wedi son am hyn o'r blaen, ond mae erthyglau am drefi Swydd Derby ar y Wicipedia Cymraeg, ond rhai arwynebol iawn ydyn nhw. Sgen ti awydd ymhelaethu arnynt (drwy gyfieithu o'r erthyglau Saesneg falle)?

Jyst rho dro ar olygu, os wnei di rhwybeth o'i le, mae modd unai newid yn ol i sut oedd tro blen, neu gynnig cywiriadu (boed yn ieithyddol neu yn dechnegol).

Go on, cer amdani!

Rhys Wynne said...

teipos ofnadwy fan'na gynna i!

JonSais said...

Wna i gymryd cipolwg dros yr erthyglau ar Wicipadia yn fuan.