Thursday, 20 March 2014
Lotta Continua!
Mewn ffordd mae hi'n fraint, cael mynediad i lenyddiaeth gwlad a diwylliant arall, ond mewn ffordd arall mae hi'n rhywbeth anghyfforddus. Hynny yw cael gweld sut mae pobl eraill yn edrych arnoch a chael clywed eu beirniadaethau o'ch cydwladwyr a diwylliant o safbwynt anghyfarwydd. Pan oeddwn uniaith Saesneg yr oeddwn ddarllen gweithiau am hanes a syniadaeth gwleidyddiaeth asgell chwith, gan gynnwys gweithiau clasurol hen anarchwyr megis Kropotkin a Maletesta ac ysgrifenwyr mwy cyfoes fel Colin Ward. Ar ôl i mi ddod yn siaradwyr Cymraeg ac yn medru darllen yr iaith honno mi wnes i ddechrau ar y daith hir o ddarllen nofelau, a gweithiau hanes a syniadaeth wleidyddol y Cymry. A dyna'r ing. Wrth ddarllen gwaith pobl gyfoes mae'n bosib ymateb, weithiau trwy sgwrsio a thrafod yn uniongyrchol efo'r awduron. Ces i sawl sgwrs efo Colin Ward dros y blynyddoedd wyneb i wyneb ac weithiau trwy lythyr. Ond wrth ddarllen clasuron weddol ddiweddar Cymraeg dw i wedi darganfod fy mod wedi colli'r cyfle i gwrdd â rhai o'r bobl yma. Pe bawn i wedi cael fy magu fel Cymro falle mi fyswn i wedi cael y cyfle i gwrdd â'r bobl yma. Ond mae hi’n rhy hwyr. Dw i'n cael darllen eu geiriau ond does dim modd cael sgwrs efo nhw. Mae'r dialog yn un ffordd, dw i'n gallu clywed, neu yn hytrach darllen eu geiriau, ond 'sdim cyfle ymateb. Dyna'r golled. Er mor werthfawr yw darllen geiriau RS Saunders, DJ Williams, Lewis Valentine, R S Thomas a sawl arall sy bellach wedi gadael y fuchedd yma sdim cyfle ymateb. Sdim cyfle chwaith cael dweud wrthon bod y frwydr dros yr iaith a'r diwylliant yn parhau. Dim cyfle i ddangos iddyn nhw bod eu gwaith nhw wedi dwyn ffrwyth yn y canrif yma, ond er gwaethaf hynny mae'r peryg i'r iaith yn parhau. Ond i ddyfynnu'r Eidalwyr Lotta Continua! I'r Gad!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment