Monday, 28 April 2014

Diwrnod i'r brenin

Mi gawson ni ( y wraig a fi) ddiwrnod i'r brenin ddoe. Roedd hi'n ddigon dymunol ar ran y tywydd a phenderfynom fynd i weld coedwig leol ger Ambergate lle mae nifer enfawr o gylchau'r gog mewn blodau a chryn dipyn o 'Ransomes' sef garlic wyllt.
Ar ôl ymweld â'r goedwig aethon ni ar hyd rhan dawel o gamlas Cromford. Yr oedden ni'n gobeithio gweld neidr y gwair ond doedd dim un i'w gweld ond roedd sawl peth arall diddorol. Pethau megis penbyliaid wrth y mil yn nofio o dan y dŵr, adar y dŵr megis Cwtiar ac Iâr Dwr yn adeiladu nythod.
Hefyd welom 2 Ddraenogyn dŵr croyw. Wrth gerdded ar hyd y gamlas welom hen dai oedd wedi cael eu hadeiladu ar yr un pryd a'r gamlas. Mae'r gamlas yn chwarchodfa natur bwysig a noddfa i'r rhai ohonom sy eisiau dianc o'r prysurdeb y byd.
Ar ôl ein taith cerdded aethon ni i fyny i Erddi Rhododendron Lea am banad a chacen a thaith arall o amgylch y gerddi prydferth. Mi fydd diwrnod cerddoriaeth yn y gerddi ym mis Mehefin efo nifer o gerddorion gwerin yn dod i chwarae alawon traddodiadol.
Ac ar ôl dod adref aeth ati i dorri'r lawnt, bellach mae'r ardd cefn yn edrych yn dwt ac yn daclus, y peth nesa i wneud rŵan ydy paratoi'r gwely llysieuol ar gyfer sawl planhigyn courgette ac ambell blanhigyn ffa dringo.

No comments: