Sunday, 11 May 2014

Hwyl ddiniwed neu fygythiad i ieithoedd Ewrop?

Yr oeddwn i'n gwylio rhan helaeth o gystadleuaeth Eurovision neithiwr. Does gen i ddim lawer o amser fel arfer ar gyfer y fath cachi rwtsh. Neithiwr roedd hi'n drawiadol iawn bod y rhan mwyaf o'r cystadleuwyr yn canu yn Saesneg. Wn i ddim os ydy hyn o ganlyniad i ddymuniadau'r grwpiau i fanteisio ar farchnad cerddoriaeth byd eang Eingl-Americanaidd neu ryw reswm arall anhysbys. Ta beth, pan ddaeth hi amser i'r canlyniadau cael eu hadrodd o 36 wledydd gwahanol ar draws Ewrop dim ond cynrychiolydd Ffranc wnaeth adrodd yn ôl yn ei mamiaith. Pawb eraill, ie PAWB! wedi adrodd y canlyniadau trwy'r Saesneg. Efallai dydy hyn dim o bwys mewn cystadleuaeth ffordd a hi fel Eurovision ond yr oeddwn i'n difaru bod y cyfle i glywed ieithoedd gwahanol Ewrop wedi cael ei cholli. Mae hi'n gwestiwn dwys a ydy dylanwad y diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd yn mynd i arwain at dranc prif ieithoedd Ewrop heb son am ieithoedd llai a lleiafrifol y byd. Felly ydy Eurovision yn hwyl ddiniwed neu fygythiad go iawn i ieithoedd Ewrop? Mond yn gofyn.

1 comment:

Nic said...

Ar ran y canu, mae hyn yn mynd ymlaen ers o leia 1974, pan enillodd ABBA gyda Waterloo, ond dw i'n eitha siwr bod enillwyr wedi bod sy'n canu yn eu hiaith eu hunain ers hynny.