Friday, 15 August 2014

Gwyliau haf yng Nghymru rhan 2

Unwaith eto yng Nghymru annwyl! Wel dyma fi'n ôl yn Lloegr i fod yn fanwl gywir ar ôl pum noson a chwe diwrnod yn ardal Llanelli ar gyfer yr Eisteddfod. Rhaid dweud roedd hi'n dipyn o daith i lawr yn y car ar ddydd Sul penwythnos cyntaf yr Ŵyl. Mi wnaeth y daith para am bum awr a hanner. Hen digon, ac roedd rhaid i mi e'i thorri hi i gysgu ar ôl croesi'r ffin. Mi ges i hwyl ar y nos Sul oherwydd roedd ddrama wedi cael ei llwyfannu gan Gymdeithas yr Iaith  yn y Tomas Arms, sef 'Dynes a hanner gyda Rhian Morgan & Llio Sulyn. Roedd hi'n wych a phawb yn chwerthin yn braf. Wrth gwrs yr oeddwn i wedi paratoi amserlen personnel ar gyfer y pum diwrnod wedyn, ond er fy mod i wedi cynllunio yn ofalus ofer yw'r ymdrech. Bob tro yr wyt ti wedi cyrraedd y maes ti'n sicr i gwrdd â hon a hon a  chael sgwrs hir cyn sylweddoli bod y drysau wedi cau ar gyfer y digwyddiad yr oeddech chi yn anelu amdano.
Y tro'ma  wrth gyrraedd y maes roedd hi'n bwrw glaw yn eithaf  caled ac roedd rhaid i mi aros ym mhabell y fynedfa am dipyn. Pan o'n i yno mi ges i sgwrs  efo'n gyfaill William o Lundain a Blaenau Ffestiniog yn gynt. Chwarae teg i Wiliam, mae o wedi ffonio fi bob yn ail wythnos byth ar ôl  cwrdd â fi  yn ôl yn Eisteddfod  Meifod 2003.
Er gwaetha hyn, mi wnes i lwyddo i weld  ambell gystadleuaeth ar fore dydd Llun yn y Pafiliwn, megis  cystadleuaeth unawd Cerdd Dant ac unawd  canu gwerin cyn  mynd i'r Babell Lên i wrando ar Emyr Davies yn siarad am T H Parry Williams ac wedyn Mererid Hopwood yn sgwrsio am Lyfr Du Caerfyrddin.
Wedyn mi wnes i dreulio'r prynhawn yn crwydro’r maes ac yn  ymweld â maes D. Mi wnes i gwrdd â'n hen fos,  Dai Pryer o Fenter Iaith Abertawe. Mae Dai bellach yn gweithio i'r Urdd yng Nghaerfyrddin.
Bore Dydd Mawrth mi wnes i ddechrau ym Maes D am banad a sgwrs cyn mynd i'r Pafiliwn am dipyn, wedyn ymlaen i'r Cwt Ddrama am un o’r gloch i wylio'r Sgript Slam, sef  tair drama wahanol gan awduron newydd ac wedyn cael clywed barn tri arbenigwr yn  dadansoddi’r dramáu cyn pleidleisio i benderfynu’r enillydd. Roedd safon pob un yn wych. Wedyn cinio ym maes D a mwy byth o grwydro'r maes. Y nos Fawrth  mi wnes i fynd ac Eileen Walker o Fradford i drio cael mynediad i'r ddrama Cymraeg yn y theatr yn Llanelli, ond och a gwae (i ni) doedd dim seddi ar ôl am yr wythnos gyfan!
Bore dydd Mercher mi wnes i dreulio dipyn o amser yn y Pafiliwn a ches i sgwrs efo 'Maureen' sef ffrind i Wiliam. Wedyn ymlaen i'r Babell Lên i wrando ar sgwrs rhwng Beti George a Hywel Gwynfryn ynglŷn â'r Llyfr mae Hywel wedi sgwennu am y ddau gomedïwr. Am 2 o'r gloch roedd rhaid i mi bicio draw i faes D i weld Joella Price yn cystadlu am deitl Dysgwr y Flwyddyn. Roedd Joella yn aelod rheolaidd o gyfarfodydd Bore Coffi Popeth yn Gymraeg Nottingham am y tair blynedd yr oedd hi'n astudio yn Nottingham. Roedd Joella wedi dod a gwisg nyrsio a oedd yn dangos y bathodyn wedi  gwneud yn frodwaith 'Iaith Gwaith'  sy’n dangos i'r cleifion, ei bod hi, fel nyrs, yn medru'r Gymraeg. Mi wnes i weld Howell Price a'i wraig ond dim ond am eiliadau ym Maes D. Wedyn mi wnes i weld digwyddiad ym mhabell ‘Platiad' ar gyfer gwasanaeth gofal  Cymraeg  newydd. Roedd cyn cadeirydd Menter Iaith Abertawe (Hugh Dylan Owen) yn cymryd rhan. Chawson ni sgwrs dros banad am dipyn yn trafod gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth yr iaith.
Yno ymlaen i grwydro'r maes unwaith eto. Mi wnes i weld Noson Lawen Trac yn Nhŷ Gwerin (sef yr Ywrt mawr)  cyn mynd  nôl i'r Stafell yn y Travel Lodge yn  Penllegaer ar gyrion Abertawe, ble oeddwn i'n aros. Llety sylfaenol a dim gwasanaeth S4C ar y teledu. Gwarthus.
Ar fore Iau, roedd y bysiau wedi mynd erbyn i mi gyrraedd  Maes Parcio 3 ac roedd rhaid i mi aros am 40 muned am  y bws nesa. Pan oeddwn i'n aros mi wnes i glywed cyfweliad ar Radio Cymru efo Dylan Owen yn siarad â Joella Price am ei champ yn ennill y gystadleuaeth. Mi wnes i gwrdd â Martin ar y maes. Y peth
cyntaf i ni wneud oedd mynd i mewn i'r Pafiliwn i weld Joella ar y prif lwyfan yn derbyn tlws ennillydd Dysgwyr y Flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddi hi. Aethon ni ymlaen wedyn i grwydro dipyn cyn mynd i weld yr ail Sgript Slam yn y Cwt Ddram. Unwaith eto yr oedd hi'n wych. Yn hwyr yn y prynhawn mi es i i weld rhan gyntaf o'r Stomp Cerdd Dant. Roedd hi'n wych, er braidd yn 'las' ar ran cynnwys y penillion. Roedd rhaid i mi fynd i weld gig y Gymdeithas wedyn oherwydd roedd gen i docyn ar gyfer gig  Gwenno, ond yr oeddwn i  wedi blino yn fawr iawn ac mi es i yn ôl i'r Travel Lodge cyn iddi hi ddechrau canu.
Ar y diwrnod olaf mi wnes i dreulio'r bore efo Martin yn y Lolfa
Llên yn gwrando ar lenorion, beirdd a chantorion yn trafod eu gwaith nhw.  Wedyn crwydro''r maes yn yr heulwen cyn penderfynu gadael y maes a dechrau'r siwrne hir yn ôl i fynnu’r M5, yr M42, M6 toll a'r A38 i gyrraedd drws ffrynt y tŷ yn Belper erbyn 9.00 o'r gloch y nos.
Yr oeddwn i wedi cael wythnos brysur, ond ar ôl dod adref mae hi wastad  bach yn drist. Mae'na  dueddiad gen i i ddioddef  o'r felyn ar ôl i mi ddod adref o'r Eisteddfod. Ond gwellhad i hyn yw mynd ar y cyfrifiadur i fwcio'r llety ar gyfer Meifod 2015. Do mi wnes i fwcio wythnos mewn bwthyn yn Llanrhaeadr-ym-mochnant. Methu aros.


No comments: