Mi ges i benwythnos hyfryd iawn yn ddiweddar yn mynd a'r rhieni draw i ardal Dolgellau. Cawson ni dwy noson yng Ngwesty Gwernan ar ochr Cader Idris i Ddolgellau. Wnaethon ni adael Tarporley ar fore Gwener yn anelu am Langollen i ddechrau le cawson ni daith gerdded hyd y bont hynafol uwchben yr afon Dyfrdwy. Wedyn wnaethon ni yrru i'r Bala i gael coffi yn y caffi drws nesa i siop Awen Meirion ac wedyn ymweliad cyflym i archfarchnad Sbâr i brynu cynhwysion picnic.

Mi oedd y pryd o fwyd yn y Gwernan gyda'r nos yn flasus ac mi oedden ni wedi plesio efo safon y llety.
Ar y dydd Sadwrn aethon ni am daith car arall i Fairbourne, Dolgellau ac yn ôl i Ddolgellau mewn pryd i gael cinio yn y Sosban. Doedd dim lle i ni ar y llawr is, felly aethon ni lan y grisiau i stafell oedd arfer bod yn Llys i'r Goron. Roedd gwaith plaster ar yn wal yn cyhoeddi'r dyddiad 1606. Cawson ni ginio swmpus cyn mynd yn ôl ' Westy Gwernan i eistedd ar fainc y tu allan i'r llety yn edrych ar draw'r llyn pysgota.
Ar yr ail noson penderfynon ni mynd i chwilio am dŷ bwyta lleol ac yn y pendraw cawson ni bryd o fwyd yn y Little Chef lleol.
Aethon ni nol i Tarporley trwy'r Bala ond roedd digon o amser i alw mewn i weld Capel grug ger Corwen ac i ymweld â Siop bwyd Stad Grug.
Roedd hi'n benwythnos neis mewn ardal hyfryd.
No comments:
Post a Comment