Cawson ni noson hwylus yng nghwmni perchennog, staff a chwsmeriaid siop llyfr hynotaf yng nghanolbarth Lloegr, Prydain a'r byd sef Siop Llyfrau Scarthin, Cromford, Swydd Derby. Mae'r siop yn dathlu 40 oed eleni. Cafodd y siop ei sefydlu yn 1974 gan Dave Mitchell. Mae o dal wrth y llwy efo cymorth ei deulu a chriw o weithwyr ffyddlon a llu o gwsmeriaid teyrngar.
Mae arwyddair y siop yn ddweud ei fod yno er mwyn darparu ar gyfer 'y mwyafrif o leiafrifoedd'. Mae hi'n wir oherwydd eu bod chi'n medru dod o hyd i unrhyw bwnc bron, yn y byd. Mae'r siop yn gwerthu cyfuniad o lyfrau newydd sbon, llyfrau ail-law a llyfrau hynafol. Ar ben hyn mae'na gaffi yng nghefn y siop sy'n gweini bwydydd a chacenni cartrefol. Bob hyn a hyn mae'r siop yn cynnal digwyddiadau yn y cafe fell llaawsiadau llyfrau ac ambell 'Cafe Pholosophique'. Mae gwefan y siop yn dangos y cyfan. http://www.scarthinbooks.com
Roedd y parti neithiwr yn llawn o bobl, nifer ohonynt mewn gwisg o'r saithdegau. Fel pob parti da roedd diodydd a bwydydd bach ond campwaith y noson oedd y gacen pen-blwydd.
Diolch yn fawr Dave a'i deulu! Ni fysai bywyd deallusol Swydd Derby yr un heb gyfraniad Siop Scarthin.
No comments:
Post a Comment