Saturday 7 August 2010

Ffair Periannau Ager Cromford ac Eisteddfod Glyn Ebwy 2010

Dw i wedi cael wythnos braf iawn.
Y penwythnos diweddaf aethon ni (Marilyn a Brian, sef tad Marilyn) i ymweld â sioe peirannau Ager Cromford. Roedd blas mwg glo ar y gwynt wrth i ni gerdded y maes. Cawson wledd o brofiadau diddorol ac ar ben hynny roedd y tywydd yn braf. Add Image
Wedyn ar y Sul wnes i yrru i lawr yr A38, M42, M5 ac M40 i gyrraedd Eisteddfod 2010 yng Nglyn Ebwy.
Roedd trefniadau parcio yn drysu ac mi ges i dipyn o daith trwy Abertyleri cyn i mi gyrraedd Maes parcio wrth ochr y Brifwyl.
Mi ges i bnawn da yn crwydro’r maes yn siarad â phobl, ymweld â stondinau a rhoi posteri am y cyfarfod ‘Dysgu’r Gymraeg yn Lloegr’ Dydd Mercher Maes D o gwmpas y Maes. Roedd torf enfawr ar y Maes 25,000 o bobl yn ôl y newyddion BBC Radio Cymru.
Wedyn es i draw i’r Fenni i’n Llety. Llety o safon ar ran y stafelloedd a bwyd, ond roedd agwedd gwael gan y lletywraig . Bob bore dros amser brecwast wnaeth i drio stopio 3 o Gymry (a finnau) oedd yn aros yno rhag siarad Cymraeg. ‘Siaradwch Saesneg’ meddai hi. Ond wnaethon ni barhau i siarad Iaith y nefoedd!
Dydd Llun mi welais fy nghyfaill o Lundain, sef William Thomas, gynt o Flaenau. Bob Blwyddyn mae William yn eistedd am yr wythnos mewn sedd o blaen bwrdd y Beirniad yn y Pafiliwn. Wedyn mi wnes i weld Myrddin Ap Dafydd yn trafod ‘Cyflwyniad i’r Gynghanedd’ ym Maes D a hefyd mi wnes i gwrdd â Gareth Thomas o Basingstoke, sy wedi bod yn cydweithio gyda fi i’w greu’r Cyflwyniad Dydd Mercher.
Roedd Les Barker a Siôn Aled o Wrecsam yn y sesiwn. Does gen i ddim gobaith ‘sgwennu englynion ar hyn o bryd ond gawn ni weld. Pwy a ŵyr, efallai mi fydd rhywun o Loegr yn ennill y Gadair?
Dydd Mawrth penderfynais weld dipyn bach o bethau diwylliannol, felly es i i’r Pafiliwn Pinc i wrando ar Lefaru Unigol 12-16, wedyn y gystadleuaeth ‘Grŵp offerynnol neu Offerynnol a lleisiol’. Roedd 6 o rwpia yn cystadlu gan gynnwys Telynau Cwm Derwent o Swydd Derby.
Wedyn mi es i i’r Babell Len i wrando ar Alan James yn trafod Gwenynen Gwent, sef dylanwad yr Arglwyddes Llanofer ar gasglwyr alawon a chaneuon Gwerin yn ystod yr 1840au.
Ar ôl cymaint o ddiwylliant uchel ael roedd rhaid i mi fynd am baned ar Faes D, Roedd Gwynne Davies ac Eileen Walker o Bradford yno a hefyd ffrindiau o Gymru fel Malcolm o Gwm Caer a Neil o Gaerdydd.
Pan o’n i yno mi wnes i recordio cyfweliad efo radio Cymru ar gyfer y sesiwn (Dysgu’r Gymraeg yn Lloegr) dydd Mercher.
Gyda’r nos mi es i i gyfarfod Gwylwyr S4C ar Stondin S4C roedd tua 80 o bobl yno. Roedd Penarth dros dro S4C yno, cadeirydd S4C a digon o bobl fel Angharad Mair ymhlith y gynulleidfa. Roeddwn i ddigon hy i wneud sylw pan roedd gyfle i gynulleidfa cyfrannu i’r traddodiad. Mi wnes i ofyn iddyn nhw i beidio anghofio anghenion Cymry alltud a hefyd anghenion dysgwyr. Ar ôl i mi siarad mi wnes i deimlo bron iawn yn sâl, roeddwn i mor nerfus.
Y diwrnod wedyn, Dydd Mercher mi wnes i glywed fy hunan yn siarad ar y radio, profiad od iawn. Roeddwn i’n teimlo yn nerfus iawn am y cyflwyniad, ond yn y pen draw aeth popeth yn iawn, roedd Gareth Thomas yn wych. Roedd tua 30-35 o bobl gan gynnwyd tiwtoriaid o Lundain, Basingstoke, Birmingham, Bradford a Slough.
Wedyn es i draw i Dderbyniad Undeb Cymru a’r byd. Mi wnes i orffen y prynhawn efo William yn y Pafiliwn yn gwylio Seremoni'r Fedal Rhyddiaith, Enillodd y Fedal gan yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor (cynt o Cincinatti, UDA) .
Dydd Iau
Mi wnes i grwydro’r Maes yn casglu defnydd ar gyfer ein hysgol Cymraeg ni ym Mis Hydref. Roedd Joella Price o Nottingham (Gynt o Borth Talbot) yn gweithio'n galed yn dosbarthu taflenni Meas D.
Hefyd es i i wrando ar Stori’r Dydd yn y Pabell Len cyn mynd i’r Pafiliwn i weld cystadlaethau'r Tenororiad, a chorau merched.
Mi wnes i orffen y prynhawn efo Joella yn gwrando ar Gôr Meibion y Cwm, sef Côr Meibion lleol. Roedd y rhaglen yn gynnwys hen ganeuon a hymenau traddodiadol fel Gwahoddiad, Myfanwy, Calon Lan ac ati.
Dydd Gwener oedd fy niwrnod olaf, ac mi wnes i dreulio’r amser yn cerdded o gwmpas y Maes yn cwrdd â ffrindiau a hefyd mi wnes i weld dipyn o gystadlaethau Cerdd Dant yn y Pafiliwn Pinc.
Mi wnes i adael y Maes am 5.30 ac erbyn 6.00 roeddwn yrru tuag at Derby. Roedd y siwrne yn hir, ond mae gen i atgofion melys o’r Eisteddfod. Blwyddyn nesa Wrecsam.

2 comments:

Emma Reese said...

Beth wnaeth y lletywraig ar ôl i chi anwybyddu ei gorchymyn? Pam mae hi'n meddwl bod gynni hi busnes gynnoch chi? Dylet ti ddweud wrth Gymdeithas yr Iaith!

JonSais said...

Fawr ddim. 'Falle mi ddylwn i wedi gwneud rhywbeth ond doeddwn i ddim eisiau 'fuss'. Yn sicr dw i ddim yn mynd yn ôl i'r gwesty byth eto.