Sunday 22 August 2010

Gwyl Tegeingl 2010



Yr ydw i newydd ddod yn ôl ar ôl penwythnos gwych draw yn Yr Wyddgrug. Mi wnaeth Marilyn a finnau teithio draw i Tarporley ar fore Dydd Gwener cyn mynd ymlaen at Glwb Rygbi'r Wyddgrug gyda'r nos, ble roedd Gŵyl Tegeingl yn cael ei gynnal am y trydydd tro.
Yr oedd Gwibdaith Hen Fran yn perfformio yno ar y Nos Wener, yn dechrau efo perfformiad yn y bar cyn symud draw i'r brif pafilwn. Rhaid dweud ei bod nhw'n fendigedig! Roedd hi'n hwyr iawn, ar ôl hanner nos cyn i ni gyrraedd yn ôl i Tarporley.
Ar y dydd Sadwrn aethon ni draw i ganol y dref i ddechrau. Wnaeth Marilyn mwynhau crwydro'r Farchnad a'r strydoedd. Wedyn nol i'r Clwb Rygbi'r Wyddgrug ar gyfer diwrnod llawn adloniant a gweithgareddau. Yn ystod y prynhawn mi wnes i weld Cath Aran o Flaenau ffestiniog yn adrodd Storiâu, wedyn wnaethon ni i weld Twm Morys yn perfformio efo'r grwp Bob Delyn a'r Ebillion, a hefyd y grwp Mabon yn y Prif Bafiliwn. Yn y noswaith roedd Les Barker yn cystadlu yn Y Stomp ac yn syndod mawr i mi, ac efallai i Les hefyd, wnaeth o ennill! Llongyfarchiadau Les!
Ar ôl y stomp mi es i draw i wylio y grwp Mabon yn gwneud eu prif berfformiad a rhaid i ni ddweud roedd Mabon yn arbennig o dda. Wnaethon ni brynu CD! Ar ôl Mabon roedd'na Dwmpath efo cerddorion lleol, tua 20 ohonyn nhw, ar y llwyfan ac roedd y dawnsio yn wallgo’!
Diolch yn fawr i bawb ar Bwyllgor Gŵyl Tegeingl mi fydden ni'n dod yn ôl eto, dw i addo!

No comments: