Wednesday, 25 August 2010

Yr Wythnos a'r rhaglen Taro Post

Yn ddiweddar, ar safle we SSIW (Say Something in Welsh), daeth hi'n gyhoeddus bod y BBC wedi penderfynu’n dawel bach, yn nôl ym Mis Mawrth, i ddod a'r rhaglen newyddion i ddysgwyr, sef Yr Wythnos, i ben. Felly ni fydd cyfres newydd ar ôl cyfnod yr haf.
Mi wnes i sgwennu at y BBC i gwyno ac mi ges i ymateb digon tila'n beio diffyg arian.
Ar un adeg roedd'na nifer o raglenni’n unionsyth i ddysgwyr ar S4C, raglenni fel Welsh in a Week, Cariad at yr iaith, Talking Welsh, sef opera sebon i ddysgwyr. Fesul un maen nhw i gyd wedi mynd. Rŵan yr olaf un, Yr Wythnos, wedi mynd hefyd. Mae'r BBC ac S4C yn darparu rhai pethau i ddysgwyr ar y we, ond dydy hynny dim yn ddigon dda. Mae'na nifer o ardaloedd yng Nghymru ble mae'r gwasanaeth band-llydan (broadband) yn wael iawn. Felly wnes i gwyno am benderfyniad y BBC ar Focs Sebon Taro Post ar ddydd Mercher. ( Gwelir http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00tj4m8/Taror_Post_25_08_2010/ ) Gobeithio cawn ni ymateb oddi wrth ddysgwyr eraill, mae hi'n gam gwag gan y BBC!

No comments: