Saturday 5 October 2013

Taith Cerdded a Chymru ar y gorwel

Mi ges i ddiwrnod i'r brenin heddiw pan es i ar daith cerdded o amgylch bryn lleol (Shuttingsloe) yn ardal y Peak efo fy nghyfaill Martin, y dysgwr rhugl o Clay Cross. Wnaethon ni ddechrau o ardal o'r enw Wildboarclough cyn cyrraedd gwaelod y bryn a cherdded i fyny'r allt serth i gyrraedd y copa. Roedd hi'n fore bendigedig ac yr oedd nifer o bobl eraill wedi cyrraedd pen y bryn o'n blaen ni. Er gwaethaf yr holl law sy wedi disgyn yr wythnos yma, roedd yr awyr yn las ac roedd dipyn o awel ffres. Ar ôl cyrraedd y copa roedd 'na wobr hael, sef golygfeydd trawiadol iawn o amgylch y bryn. Yn lleol yr oedden ni'n gallu gweld rhostiroedd Swydd Stafford a Swydd Caer, ond i'r gorllewin roedd hi'n bosib gweld y Wrekin, y Long Mynd, Caer Caradog, bryniau dyffryn Clwyd gan gynnwys Moel Famau. Ond beth oedd hyd yn oed yn well, tu draw i fryniau dyffryn Clwyd roedd hi'n bosib gweld, yn niwlog ar y gorwel, mynyddoedd Yr Eryri, sef y Carneddau. Yn ôl y map arolwg Ordnans, mae hi'n bellter o 70-80 milltir. Dyma dro cyntaf yn fy myw fy mod i weld cyn bell. Fallai bod yr amser wedi dod am ymweliad i ardal Wildboarclough gan aelodau Cymdeithas Edward Llwyd? Mi fydd Martin neu finnau digon hapus i ddangos y gornel fach brydferth o ardal y Peak i'r aelodau.

No comments: