Sunday, 27 October 2013

Gwirfoddolwyr Canolbarth Lloegr dros yr iaith Gymraeg


Dros gyfnod eitha’ hir mae grwpiau dysgwyr canolbarth Lloegr wedi derbyn dipyn o sylw mewn cylchgronau ac ar radio/teledu yng Nghymru. Mae'na nifer o wirfoddolwyr selog tu ôl i'r gwaith sy'n cael ei wneud.
Mae dau ddosbarth Cymraeg wythnosol sy'n cael ei drefnu yn Belper yn ganlyniad i waith caled gan Glen Mulliner. Bore Sul y penwythnos yma roedd Glen yn rhedeg stondin y dosbarth Cymraeg mewn diwrnod agored yng nghanolfan Strutt Belper.

Unwaith y mis mae'r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg yn cael ei gynnal yn Nottingham. Mae'r bore coffi yn llwyddiannus iawn efo 10-15 o bobl yn dod fel arfer, ond y gŵr sy tu ôl i ffyniant y digwyddiad misol yw Viv Harris, oherwydd Viv Harris, gynt o Ynys y Bwl, sy'n trefnu rota misol y boreau coffi.
Mae'r grŵp ymarfer wythnosol sy'n cael ei rhedeg yn Derby gan DWLC yn gyfrifoldeb Allan Child, sy'n gofalu bod y canolfan ar agor, bod te/coffi a bisgedi ar gael, a hefyd, pan fo angen bod cyflenwad newydd o lyfrau Cymraeg ar gael i'r grŵp cael darllen.
Unwaith y mis yn Nhafarn the Assembly Rooms, Solihul mae'na nifer o ddysgwyr SSIW yn ymgynnull o dan arweiniad Cymro alltud o Gaerdydd, sef Aled James.
Steve Clement yw'r enw'r gŵr bonheddig sy'n arwain dosbarth Cymraeg yr U3A yn Sheffield, ac Eileen Walker sy tu ôl i Glwb Clebran Bradford. Hir oes i ymdrechion y bobl weithgar yma. Diolch iddynt.

1 comment:

Unknown said...

Falch iawn o weld bod 'na wersi Cymraeg o hyd yn Sheffield. Bues i'n cynnal dosbarth uno 'nol yn yr 80au. Yn y Walkley Institute.