Sunday 20 October 2013

Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2013















Cynhaliwyd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar ddydd Sadwrn 19 o Hydref yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yng nghanol dinas Derby. Daeth 35 o bobl at ei gilydd mewn tri dosbarth i ddysgu, siarad a mwynhau iaith a diwylliant Cymru. Cafodd dosbarth y dysgwyr profiadol a Chymry alltud amrywiol cyflwyniadau

PowerPoint i'w diddani, yn dechrau efo darlith am hen draddodiadau Cymreig megis Y Fari Llwyd gan Aled James o Goventry (gynt o Gaerdydd) ac wedyn cyflwyniad tu hwnt o ddiddorol gan Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield (gynt o Hen Golwyn). Roedd Dr Hemer yn siarad am ei gwaith fel archeolegydd biomolecwlar. Hoffwn ddiolch hefyd i Martin Coleman am gyflwyniad am waith adran hawliau tramwyfa llwybrau cyhoeddus Cyngor Sir Swydd Derby. Roedd cyflwyniad fi yn son am deithiau Gymdeithas Edward Llwyd. Eileen Walker o
Bradford oedd tiwtor ar gyfer y grŵp canolradd. Cawson nhw amrwymau o gemau ac ymarferion iaith tra oedd Elin Merriman yn gofalu am anghenion dysgu grŵp o ddechreuwyr pur. Diolch yn fawr i'r athrawon, siaradwyr a gwirfoddolwyr a hefyd i 'Criw'r Gegin' a wnaeth gwaith caled yn darparu diodydd a chinio blasus ar gyfer y diwrnod. Mi fydd rhaglen Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby 2013 yn parhau trwy weddill y flwyddyn efo'r cyfarfod wythnosol am 9.30 ar fore Dydd Mawrth a'r gweithdy Dydd Sadwrn misol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Stryd Sant Helen, Derby. Mae'na groeso i bawb boed dysgwyr neu Gymry alltud ac ymwelwyr o'r hen wlad. Mae manylion ein grŵp ar gael ar wefan www.derbywelshlearberscircle.blogspot.com

2 comments:

Unknown said...

Nodyn byr ar yr Ysgol Undydd

Yn ôl y categorïau yr Ysgol Undydd, dwy'n digon rhugl gyda'r iaith i mynychu y dosbarth profiadol - tamaid o pryder i cadw'r famiaith!
(According to the one-day class categories I'm sufficiently fluent to attend the proficient group - a bit of a worry to keep my mother tongue!)

Mae'n bwysig i cofio'r gwaith sydd yn digwydd yn y cefndir, ymdrech Jonathan Simcock yn enwedig.

Y tro yma, roedd y sgwrs ar ôl cyflwyniad Aled James yn ddiddorol iawn, tad Aled, Brian yn siarad am storiau Y Mabinogion - roeddwn yn atgofa clywed yr un storiau o fy athrawes yn Ysgol Gynradd Cwmnedd.

Roedd cyflwyniadau Kate, Martin a Jonathan yn ddiddorol gyda'r herio (sialens) ychwanegol i atgofio a datblygu fy geirfa.

Y peth mwyaf pwysig i fi yw'r cyfle am sgwrs anffurfiol. Mae pawb yn cael gwahaniaethu mewn amgylchiadau a i fi, does dim amser i defnyddio'r iaith neu ymlacio a mwynhau, felly, mae'n bwysig i ymdrechu mynychu (Mae na rheswm pam mae Johnathan yn galw fi y mab afradlon yr Ysgol!)

Tymor newydd - ymdrech ychwanegol!
Welai chi oll cyn bo hir?!

JonSais said...

Diolch am y sylwbau caredig. Mi fydd hen ddigon o gyfle am sgwrs anffurffiol yn ystod y gweithdai misol. Dyn ni wedi cael adborf gwych ers y diwrnod.